Mwy o Newyddion
Agoriad Pontio yn 2015 yn dilyn oedi
Yn dilyn y cyhoeddiadau diweddar ynglŷn â’r oedi yn agoriad Pontio, ac adolygiad pellach o’r gwaith adeiladu mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi na fydd cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu yn yr adeilad tan 2015.
Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: “Yn dilyn trafodaethau manwl gyda’r adeiladwyr rwyf wedi cymryd y penderfyniad anodd a phoenus i ohirio’r perfformiadau oedd i’w cynnal yn adeilad Pontio tan fis Chwefror.
“Rwyf yn sylweddoli y bydd yr oedi pellach yma yn achosi siom i bawb, ond o ystyried yr oedi sydd wedi bod yn y gwaith adeiladu, does gennym ddim dewis arall.
“Y bwriad oedd agor yr adeilad mewn rhannau, gyda’r rhan gyntaf i fod yn barod erbyn Awst 22ain, fodd bynnag rydym yn parhau i ddisgwyl i’r gwaith yma gael ei gyflawni.”
Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn ar gyfer perfformiadau yn derbyn ad-daliad llawn. Yn ogystal, i wneud yn iawn am yr anhwylustod, bydd cwsmeriaid yn cael taleb anrheg gwerth £5 i’w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau eraill yn y Theatr. Bydd y rhai hynny sydd wedi prynu tocyn ar gyfer y Gala Agoriadol gyda Bryn Terfel yn derbyn ad-daliad, ac yn cael blaenoriaeth i brynu tocyn ar gyfer Gala newydd. Bydd staff swyddfa docynnau Pontio yn cysylltu â chwsmeriaid yn uniongyrchol.
Bydd Pontio yn ail-leoli cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Garw, yn ystod mis Hydref, ac yn gweithio ar ail-leoli digwyddiadau a drefnwyd fel rhan o Gwyl ‘My Friend Dylan Thomas’ Festival. Bydd perfformiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer lleoliadau eraill o fewn y Brifysgol yn parhau.
Ychwanegodd yr Athro Hughes: “Hoffem ddiolch i ddeiliaid tocynnau a’r holl gwmnïau perfformio am eu cydweithrediad a rydym yn rhannu eu siomedigaeth.
“Fel yr ydym eisoes wedi datgan, bydd gwersi i’w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda’r contractwr, Miller, i gwblhau yr adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel. Fel y bydd y gwaith adeiladu yn datblygu byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach.”