Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Medi 2014

Diddordeb mawr ym Mwthyn Swistirol Abertawe

Mae un mynegiad o ddiddordeb ar bymtheg wedi cael eu derbyn ers rhoi Bwthyn Swistirol eiconig Parc Singleton ar y farchnad ddechrau mis Awst.

Mae'r adeilad yn un o sawl adeilad y mae Cyngor Abertawe'n bwriadu eu prydlesu neu eu gwerthu wrth iddo geisio lleihau diffyg ariannol sylweddol.

Difrodwyd y bwthyn Gradd II restredig ym Mharc Singleton yn sylweddol gan dân yn 2010 ond mae'r gwaith adnewyddu allanol bellach wedi'i gwblhau. Roedd yn cynnwys gosod to newydd ac amnewid y ffenestri, y drysau a'r grisiau am rai tebyg.

Rhagwelir newid mewn defnydd, yn rhannol i ystafell de neu gaffi, ond dylai partïon â diddordeb sylweddoli bod angen adnewyddu'r tu mewn yn llawn yn unol â gofynion CADW, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Mae pum mynegiad o ddiddordeb ar hugain hefyd wedi cael eu derbyn i brydlesu neu brynu'r hen orsaf achubwyr bywyd ym Mae Bracelet. Mae wyth wedi cael eu derbyn am gyfle posibl i brydlesu'r ciosg yng Nghei Abernethy ym Marina Abertawe.

Meddai'r Cyng. Christine Richards, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r diddordeb sydd wedi cael ei ddangos yn adeilad eiconig y Bwthyn Swistirol ac eraill wedi bod yn sylweddol. Nid wy'n synnu oherwydd bod rhai o'r adeiladau a roesom ar y farchnad yn eithaf hynod ac mae hynny wedi helpu i dynnu sylw atynt. Adeilad adnabyddus, poblogaidd yw'r Bwthyn Swistirol ym Mharc Singleton.

"Trwy brydlesu neu werthu'r adeiladau hyn, bydd y cyngor a chymunedau lleol ar eu hennill. Nid ni sy'n gyfrifol am yr heriau ariannol digynsail sy'n ein hwynebu ond mae gwaredu ar rai o'n hadeiladau yn ein helpu i gyrraedd ein targedau arbed ac yn adnewyddu eiddo ar draws y ddinas fel y gellir eu defnyddio'n gynaliadwy er lles y cymunedau y maent ar eu cyfer."

Mae dau sefydliad hefyd wedi cysylltu â ni am y posibilrwydd o gymryd prydles tymor hir ar adeilad Canolfan Adnoddau Forge Fach ar y Stryd Fawr yng Nghlydach. Daeth y cyngor i'r adwy i gadw'r cyfleuster ar agor ar ôl i Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol Cwmni Clydach fynd i'r wal y llynedd, felly dylai partïon â diddordeb fod yn ymwybodol y gall yr adeilad gynnwys tenantiaid presennol.

Mae pum mynegiad o ddiddordeb hefyd wedi cael eu derbyn hyd yma i brydlesu hen swyddfeydd Rheoli Canol y Ddinas ar Stryd Plymouth. 

Rhannu |