Mwy o Newyddion
Ymgyrch i ddenu rhagor o ymwelwyr o’r Unol Daleithiau
Llwyddiannus iawn fu ymweliad swyddogol Barack Obama â Chymru, ac erbyn hyn mae cynrychiolwyr o gwmni trefnu teithiau dylanwadol hefyd yn troi tuag adref ar ôl treulio amser yma yn casglu ffeithiau am Gymru er mwyn gallu ‘gwerthu’ ein gwlad i’w cyd-Americanwyr.
Sefydlwyd cwmni Tenon Tours yn ninas Boston yn 2007, ac maen nhw’n arbenigo mewn trefnu teithiau ar gyfer grwpiau ac unigolion i Iwerddon a’r Deyrnas Unedig. Trefnodd Croeso Cymru i’r cwmni ymgyfarwyddo â rhai o brif atyniadau Chymru er mwyn gallu gwerthu mwy o wyliau i’w cleientiaid. Mae’r cwmni wedi bwcio 45 o leoliadau yng Nghymru yn ystod 2014 ac maen nhw’n gobeithio trefnu mwy byth o wyliau i’w cleientiaid dros y blynyddoedd nesaf.
Yn y gogledd, aeth y grŵp i Lanfair Pwllgwyngyll, Llandudno a’r Gogarth Fawr, Castell Conwy a Chastell Caernarfon. Cawsant brofi cyffro a gwefr yr atyniadau antur newydd sbon sy’n rhoi gogledd Cymru ar y map hefyd - Zip World Titan a Bounce Below yn Llechwedd. Aethant ymlaen i Gaerdydd a gwledda yng Nghastell Caerdydd fel y gwnaeth uwchgynadleddwyr NATO. Cyn gadael am adref aeth y grŵp ar wibdaith o amgylch Cymoedd y De, gan gynnwys Castell Caerffili.
Dywedodd Bryn Lewis, Prif Weithredwr Tenon Tours:"Ar ôl ein hymweliad diweddar â Chymru, rydym yn edrych ymlaen i rannu ein brwdfrydedd newydd ar gyfer y wlad, ei phobl, golygfeydd, hanes a diwylliant
" Mae Cymru yn aml yn cael ei hanwybyddu gan deithwyr wrth gynllunio eu gwyliau i'r DU, rydym yn teimlo bod gan Gymru rywbeth i bawb boed yn gestyll, aros mewn trefi glan môr, yn ymweld â phentrefi prydferth, gweithgaredd ac antur neu werthfawrogi’r golygfeydd syfrdanol sydd i unrhyw gyfeiriad ydych yn edrych – mae pob dim gan Gymru i gynnig.”
Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, Edwina Hart: “Mae’r ymchwil yn dangos bod tripiau ymgyfarwyddo fel hyn a drefnir gan Croeso Cymru yn ffordd wych o ddylanwadu ar gwmnïau teithio i gynnwys Cymru yn eu rhaglenni a gwerthu’r wlad fel cyrchfan wyliau.
"Mae UDA yn un o’r tair marchnad bwysicaf i Gymru ac mae’n bwysig ein bod yn marchnata ac yn cydweithio â’r busnesau teithio i geisio cynyddu nifer yr ymwelwyr domestig a thramor sy’n dod yma ar wyliau. Gall hyn helpu busnesau unigol i ddenu cwsmeriaid o farchnadoedd newydd - rhywbeth nad yw’n hawdd bob amser.
“Wrth ymweld â Chymru’r wythnos ddiwethaf, roedd Barack Obama yn llawn canmoliaeth o harddwch ein gwlad a’r croeso cynnes a gafodd gan ein pobl ni. Dywedodd y byddai’n mynd ati i annog pobl America i ymweld â’n gwlad ni ac rwyf innau’n gobeithio y bydd digonedd o Americanwyr yn dilyn ei gyngor.”
Y mae teithiau blaenorol o’r fath wedi sicrhau canlyniadau gwych i Gymru. Fe ddaeth y gweithredwr teithiau cerdded moethus, Wilderness Travel yn gynharach eleni ac o ganlyniad, maent wedi ychwanegu eu taith gyntaf erioed i Gymru yn eu catalog 2015. Mae ymweliad a drefnwyd ar gyfer Tauck Tours wedi arwain at welliannau sylweddol i'w cyfres o deithiau yng Nghymru - teithiau sydd yn awr yn cynnwys cinio yng Nghanolfan Bwyd Bodnant a rhaglen gyda Llenyddiaeth Cymru.
Bydd Croeso Cymru yn cyfarfod gyda dros 30 o weithredwyr teithiau ac asiantaethau teithio yn y Destination Britain North America - cynhadledd yn Las Vegas 14-16 Medi, a drefnwyd gan Visit Britain. Y gynhadledd hon yw'r farchnad bwysicaf yng Ngogledd America ar gyfer prynwyr a chyflenwyr teithio gwerthu Prydain. Dechreuodd y berthynas gyda Tenon Tours yn y gynhadledd hon ddwy flynedd yn ôl.
Mae Croeso Cymru yn un o noddwyr DBNA 2014, ac mae wedi partneru gyda VisitBritain i ddod â digwyddiad noson agoriadol arbennig iawn i'r gynhadledd. Bydd y cogydd Dai Phillips o Ganolfan Fwyd Bodnant yn cynnal cwrs coginio ac arddangos ar gyfer y cynrychiolwyr a fydd yn cael ei ddilyn gan ginio thema Gymreig yn dathlu enw da Cymru am fwyd o safon. Bydd cawsiau Cymreig, Penderyn a chynhyrchion eraill sydd ar gael yn America yn cael sylw.
Llun: Cynrychiolwyr o gwmni Tenon Tours yng nghastell Caerffili