Mwy o Newyddion
Arwr rygbi yn cefnogi ymgeisydd San Steffan Rhondda Plaid Cymru
Mae’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Rupert Moon yn cefnogi Shelley Rees-Owen i fod yr AS nesaf dros y Rhondda.
Mae’r seren o fewnwr, sydd bellach yn gweithio ar ddatblygu rygbi llawr gwlad yng Nghymru ers rhoi gorau i chwarae, wedi datgan ei gefnogaeth i Shelley ennill y sedd dros Blaid Cymru.
Shelley, sy’n gweithio fel actores a thiwtor drama ac sy’n gynghorydd dros ward y Pentre, oedd dewis clir aelodau Plaid Cymru yn y Rhondda fel eu hymgeisydd.
Dywedodd Mr Moon, y cafodd ei blant eu geni yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, fod aelodau wedi dewis yn ddoeth.
“Dwi’n adnabod Shelley ers blynyddoedd lawer ac yn falch i allu ei galw’n gyfaill agos i’r teulu,” meddai Mr Moon. “Dwi’n ei hadnabod yn dda iawn a gallaf dystio, gyda’m llaw ar fy nghalon, dros ei phenderfyniad, ei hegni a’i hagosatrwydd.
“Rwy’n ffyddiog y caiff trigolion y Rhondda eu gwobrwyo, o ymddiried yn Shelley, gyda chynrychiolydd cymunedol cryf a fydd yn gefn iddynt bob cam o’r ffordd.
“Rwy’n gwybod fod Shelley a’i theulu wedi eu gwreiddio yn y gymuned ac yn deal anghenion trigolion y Rhondda. Mae hi’n gwybod yn union beth sydd angen ei wneud i wella’r ardal. Pam ydw i’n dweud hyn? Oherwydd ei bod hi’n un o’r bobl, nawr ac am byth.
“Mae pawb dwi’n siarad â nhw yn cytuno fod Shelley’n gwybod sut beth yw tyfu fyny a byw yn y Rhondda ac rwy’n ffyddiog y bydd pobl yn dod i gredu y gallwch ymddiried a chefnogi rhywun fel Shelley gan fod ganddi ddealltwriaeth o’r hyn sy’n wynebu pobl.
“Mae pleidlais i Shelley yn bleidlais dros gynrychiolydd cymunedol cryf i’r Rhondda.”