Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Ebrill 2011
Karen Owen

Gafael yn y gynulleidfa

MAE ar bobl Cymru angen theatr dda a heriol yn ystod cyfnod o ddirwasgiad, yn ôl pedwar o actorion ifanc cynhyrchiad presennol Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r criw wedi bod yn teithio Cymru gydag addasiad Dafydd James o Ddeffro’r Gwanwyn ers dechrau Mawrth, ac fe fydd y daith yn dod i ben ym Miwmares nos Wener nesaf (15 Ebrill).

Yn ystod eu hymweliadau â Chaerfyrddin, Caerdydd, Pontardawe, Aberaeron, Dolgellau, Llanrwst, Wrecsam a Biwmares, mae’r cast yn cyflwyno criw o bobl ifanc sy’n mynd trwy eu harddegau ac yn profi holl deimladau cymhleth, llawn-hormonau, y cyfnod hwnnw.

I’r actorion Iddon Jones, Elain Lloyd, Meilir Rhys Williams a Lynwen Haf Roberts, sy’n siarad gyda Y Cymro yn nhref Dolgellau ar ddechrau eu taith o’r gogledd, mae’n adeg cyffrous. Fwy nac unwaith yn ystod y sgwrs, maen nhw’n sôn am yr hyn sy’n debyg i’r cyfnodau y mae pob un ohonyn nhw wedi eu treulio y tu allan i Gymru – un ai’n hyfforddi yn Llundain, neu’n byw o joban i joban tra’n mynd i glyweliadau ac yn chwilio am waith y maen nhw wir eisiau ei wneud.

“Mae o’n rhan o waith theatr i herio,” meddai Iddon Jones, a fyddai fwyaf cyfarwydd i wylwyr S4C cyn hyn fel un o sêr ifanc y ddrama sebon, Rownd a Rownd. “Mae herio yn bwysig iawn. Mae’n bwysig fod y gynulleidfa’n mynd o’r theatr yn meddwl am be’ maen nhw newydd ei weld, ac yn siarad amdano fo.

“Mae’r ddrama yma wedi gadael ei hôl arna’ i hefyd,” meddai wedyn. “Dw i’n gwybod fod pawb yn dweud fod pob drama yn ‘daith’, ond mae hi wedi bod yn braf bod yn rhan o griw ifanc o actorion, a theimlo ein bod ni’n rhan o rywbeth sydd wedi gafael yn y gynulleidfa.

“Ella bod cynulleidfaoedd Cymru wedi mynd i ddisgwyl yr un peth, ond mae angen theatr genedlaethol sy’n fodlon llwyfannu cynyrchiadau gan sgwennwyr newydd sydd isio deud pethau newydd.

“Dyna sut y mae denu pobl ‘fengach i’r theatr, a’u cael nhw i ddod yn ôl eto.”

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

 

Rhannu |