Mwy o Newyddion
Dynion wedi eu harestio am rwydo anghyfreithlon honedig
Cafodd dau ŵr o ardal Llanelli eu harestio yn gynnar fore ddoe (Mercher 10 Medi) am chwarae rhan mewn gwaith rhwydo anghyfreithlon honedig yng Nghilfach Tywyn.
Arestiwyd y dynion ar y safle mewn ymgyrch seiliedig ar gudd-wybodaeth gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda chymorth Heddlu Dyfed Powys.
Aed â’r dynion, 48 a 42 oed, i’r ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Llanelli lle cofnodwyd y troseddau honedig.
Yn ystod yr arestiadau, atafaelodd swyddogion CNC gerbyd, cwch a rhwydi ar y safle yn ogystal â nifer o bysgod môr marw, gan gynnwys draenog môr.
Mae rhwydo yn cael ei gyfyngu yng Nghilfach Tywyn oherwydd bod yr ardal yn feithrinfa i ddraenogod môr a hefyd yn llwybr i rywogaethau pwysig o eogiaid a sewin mudol.
Meddai Lyn Richards, Arweinydd Tîm Troseddau Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae ‘na reolau a deddfau yn bodoli yno i ddiogelu rhywogaethau pwysig o bysgod sy’n rhan hollbwysig o’r amgylchedd a’r economi yn yr ardal hon.
“Gall troseddau fel rhain effeithio ar y poblogaethau am flynyddoedd i ddod a dylanwadu ar y diwydiant pysgota sy’n werth £150 miliwn i economi Cymru.
“Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gawn gan bysgotwyr a’r cyhoedd i dargedu gwaith gorfodi felly rydym yn annog unrhyw un sy’n gweld potsio neu bysgota anghyfreithlon i roi gwybod inni ar 0800 80 70 60.”