Mwy o Newyddion
Cymorth i smygwyr roi'r gorau i'w harfer mewn ymgyrch newydd
Mae smygwyr yn Abertawe'n cael eu hannog i roi'r gorau i smygu yn ystod mis Hydref fel rhan o fenter iechyd genedlaethol.
Mae swyddogion hybu iechyd Cyngor Abertawe'n cefnogi'r ymgyrch Stoptober sy'n cael ei harwain gan Dim Smygu Cymru.
Yn Abertawe, mae tua 48,000 o oedolion sy'n smygu. Nod yr ymgyrch ddiweddaraf yw annog pobl i roi'r gorau i smygu am 28 niwrnod ac, efallai, am byth.
Meddai Chris Steele, Cydlynydd Hybu Iechyd yn y cyngor, "Smygu yw achos mwyaf cyffredin afiechyd a marwolaeth gynnar yng Nghymru y gellid ei osgoi.
"Rydym yn cefnogi ymgyrch ddiweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog mwy o smygwyr i roi'r gorau i'r arfer a'u helpu i fyw bywyd iachach.
"Rhoi'r gorau i smygu yw'r peth gorau y gallwch ei wneud dros eich iechyd."
Bydd smygwyr sy'n cofrestru ar gyfer yr her 28 niwrnod yn derbyn pecyn gwybodaeth gydag awgrymiadau dyddiol, offer arbennig i olrhain eich cynnydd a chyngor defnyddiol yngl?n â rhoi'r gorau am byth.
Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd saith y cant yn unig o smygwyr yn gwybod y bydd un o bob dau smygwr tymor hir yn marw o afiechyd sy'n gysylltiedig â smygu. Mae'n destun pryder fod 42 y cant o'r smygwyr a ymatebodd heb lawn werthfawrogi'r perygl hwn.
Meddai Dr Julie Bishop, meddyg ymgynghorol ar gyfer iechyd cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Mae'n hynod bryderus bod cynifer o smygwyr heb sylweddoli bod smygu'n cael effaith mor ddifrifol ar eu hiechyd. Fel gweithwyr iechyd gallwn dybio'n aml bod pawb yn gwybod am beryglon difrifol smygu ond mae canlyniadau ein hymchwil yn dweud stori ychydig yn wahanol.
"Dyna pam mae'n hollbwysig i ni ledaenu'r neges a helpu cynifer o bobl â phosib i roi'r gorau i smygu fel na fyddant yr un o'r ddau smygwr tymor hir i adael eu teulu neu eu ffrindiau ar ôl."
Yn ddiweddar dynododd Cyngor Abertawe bob ardal chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn ardal ddi-fwg mewn ymgais i annog rhieni i beidio â smygu o flaen eu plant.
I gymryd rhan yn Stoptober, cofrestru ar gyfer y llyfryn am ddim Peidiwch â Bod yr Un sy'n ymwneud â rhoi'r gorau neu gael cyngor a chefnogaeth am ddim gan Dim Smygu Cymru, ewch iwww.dimsmygucymru.com neu ffoniwch 0800 085 2219.