Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Medi 2014

Dathlu llwyddiant Tìm Cymru mewn steil

Dathlwyd llwyddiant anhygoel Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow mewn steil heno mewn seremoni i ddathlu’r tîm yn ôl i Gymru ym Mae Caerdydd.
 
Gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Llywydd y Fonesig Rosemary Butler yno i’w croesawu, gwelwyd tyrfa fawr o bobl yn heidio i’r Senedd i weld aelodau’r tîm yn derbyn medalau coffa arbennig a gomisiynwyd gan Dîm Cymru a’u cynhyrchu gan y Bathdy Brenhinol.
 
Ymhlith y rhai a gafodd eu hanrhydeddu oedd Aled Sion Davies a enillodd y fedal arian yng nghystadleuaeth y ddisgen F42/F44 ac a fu’n gapten y tîm a enillodd y nifer mwyaf erioed o fedalau sef cyfanswm o 36 medal. Cafodd Frankie Jones a enillodd 6 medal yn ogystal â gwobr David Dixon ei anrhydeddu hefyd.
 
Yn ystod y dathlu cafwyd perfformiadau arbennig gan ddoniau ifanc Cymru. Yn eu plith oedd Bone Appétit sef pedwarawd trombôn o Goleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Baby Queens sef band o bump o ferched a’r unawdydd Mari Wyn Williams.
 
Dywedodd y Prif Weinidog: “Rydyn ni mor falch o lwyddiant anhygoel Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Er gwaetha ychydig o anawsterau ar y dechreu fe wnaeth eu penderfyniad a’u hawdd i lwyddo dalu ar ei ganfed gyda’r tîm yn llwyddo i ennill 36 o fedalau, sef y nifer uchaf erioed.
 
“Mae Gemau’r Gymanwlad yn gyfle arbennig i’n chwaraewyr gystadlu yn erbyn y gorau yn y byd o dan faner Cymru. Dwi’n gwybod, o siarad â nifer ohonyn nhw yma heno, pa mor falch oedden nhw i gystadlu dros Gymru a pha mor hapus ydyn nhw i ddathlu eu llwyddiant yn ôl yma yng Nghymru.
 
“Mae’n briodol ein bod yn dathlu eu llwyddiant anhygoel yma heno a dymunaf yn dda iddynt wrth iddynt barhau â’u gyrfa at y dyfodol ym maes chwaraeon.
 
Dywedodd  y Llywydd: “Roedd cynnal y parti croeso nôl yn y Senedd yn fraint fawr – roedd y croeso a’r gefnogaeth a ddangosodd y cyhoedd yn ffordd wych o ddathlu llwyddiant aruthrol Tîm Cymru dros yr haf. Mae ein hathletwyr yn deyrnged i Gymru ac yn fodelau rôl gwych i’r plant a’r bobl ifanc yn y dorf heno.”
 
Dywedodd Aled Sion Davies, Capten Tîm Cymru: “Roedd wir yn anrhydedd i mi fod yn gapten ar y tîm yn Glasgow a lwyddodd i ennill y nifer mwyaf erioed o fedalau a dwi mor falch gweld pawb gyda’i gilydd yma eto fis yn ddiweddarach. Mae’n dda gweld y cyhoedd yn ein cefnogi ni hefyd drwy ddod i ddathlu ein llwyddiant heno – mae’r awyrglych yn wych, yn union fel y cyffro yn Glasgow!
 
“Roedden nhw’n Gemau i’w cofio am byth gyda rhai perfformiadau hollol ysbrydoledig. Dwi mor falch a hoffen i ddiolch i bawb a gynrychiolodd Tîm Cymru ac a fu’n gefn i’r tîm ar ein taith i ennill y nifer mwyaf erioed o fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad.”
 
 

Rhannu |