Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Medi 2014

Mwy na 100 o adeiladwyr wedi ymuno â Cymorth i Brynu Cymru wrth iddo fynd o nerth i nerth

Roedd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, yng Nghyffordd Llandudno ddydd Mercher i weld sut mae Cymorth i Brynu - Cymru’n rhoi hwb i adeiladwyr ac i ddarpar berchenogion tai fel ei gilydd.
 
Agorwyd Cymorth i Brynu – Cymru, cynllun benthyg ecwiti a rennir, ar 2 Ionawr gyda chyllid o £170 miliwn gan Lywodraeth Cymru.  Ei nod yw helpu pobl sydd heb lawer o flaendal i brynu cartref newydd.  Bydd y cynllun yn sbardun i adeiladu 5,000 o gartrefi newydd ledled Cymru ac mae llawer o adeiladwyr a darpar berchenogion tai eisoes wedi dangos eu cefnogaeth iddo.
 
Wrth ymweld â Gwêl y Castell, datblygiad gan Beech Homes, cyfarfu’r Gweinidog â Gareth a Lisa, pâr sydd newydd brynu cartref trwy’r cynllun.
 
Meddai’r Gweinidog: “Hoffwn longyfarch Gareth a Lisa am brynu eu cartref cyntaf ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw yn y dyfodol.
 
“Gwnaethon ni lansio’r cynllun i helpu pobl i brynu eu cartref eu hunain ac i roi hwb mawr ei angen i adeiladwyr.  Pleser mawr yw gweld mai dyna’n union sy’n digwydd.
 
“Mae bron 600 o gartrefi hyd yma wedi’u prynu, diolch i’r cynllun.  Mae 1,200 arall wrthi’n mynd trwy’r broses ac mae’n dda iawn gweld bod yr arian rydyn ni wedi’i neilltuo ar gyfer y cynllun yn cael effaith uniongyrchol ar unigolion, parau a theuluoedd a fyddai hebddo wedi’i chael yn anodd prynu cartref.
 
“Mae’r cynllun wedi bod yn newyddion da i’r diwydiant, gydag adeiladwyr mawr a bach o bob rhan o Gymru bellach yn cynnig benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru ar eu safleoedd.”
 
Meddai Gareth Lavin a Lisa Walker am eu cartref newydd: “Ro’n ni wedi bod yn cynilo am flaendal ers beth oedd yn teimlo fel oes, ac roedd y freuddwyd o berchen ar gartref i weld yn bell iawn.

"Er bod gennym flaendal o 5%, roedd amodau benthyg y Banciau ar gyfer prynwyr tro cyntaf sy’n rhedeg busnes yn dal i fod yn llym iawn ac yn golygu ei bod bron iawn yn amhosib inni brynu’n cartref cyntaf gyda’n gilydd.  Pan glywon ni am Gymorth i Brynu – Cymru a sylweddoli ein bod yn bodloni’r amodau, roedden ni’n hapus iawn.
 
“Nawr, mae gennym ein cartref newydd ein hunain, ac rydyn ni wrth ein boddau.  Mae’n ffocws i’n huchelgais i lwyddo yn ein busnes.  Rwy’n argymell y cynllun i bawb ac mae’n broses syndod o hawdd.”
 
Meddai Matthew Gilmartin, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain y gwahaniaeth o ran cael cartref newydd y mae’r cynllun wedi’i wneud i brynwyr tro cyntaf a’r rheini sy’n symud.
 
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y prynwyr sy’n troi at y cynllun.  Ers ei lansio ym mis Ionawr 2014, mae canran y prynwyr sy’n dewis defnyddio’r cynllun wedi codi o 25% o brynwyr i 40% yn y chwarter diwethaf.
 
“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi newydd o ansawdd uchel yn yr ardal ac rydyn newydd brynu ein safle newydd Gwêl y Mynydd, oddi ar Narrow Lane yng Nghyffordd Llandudno.  O’r tai sydd wedi’u gwerthu ymlaen llaw, mae dros 50% o’r prynwyr yn ystyried defnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru.
 
“Fel cwmni, mae gennym gynlluniau i ddarparu mwy na 200 o gartrefi newydd yn yr ardal yn y 3-4 blynedd nesaf.  Mae’n holl gartrefi newydd yn gymwys am gynllun y llywodraeth.” 
 

Rhannu |