Mwy o Newyddion
04 Medi 2014
Carwyn Jones yn croesawu’r Arlywydd Obama i Gymru
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu Arlywydd Unol Daleithiau America, Barack Obama, i Gymru.
Cyfarfu’r ddau wrth i’r Prif Weinidog groesawu gynrychiolwyr yr uwchgynhadledd i’r Celtic Manor y bore yma. Yn gynharach, aeth yr Arlywydd i Ysgol Gynradd Mount Pleasant yng Nghasnewydd cyn mynd i’r uwchgynhadledd ei hun.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae ymweliad Arlywydd UDA â Chymru i ddod i uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd yn achlysur hanesyddol gan mai dyma’r tro cyntaf i un o Arlywyddion presennol UDA ddod ar ymweliad swyddogol â Chymru.”
Disgwylir i 67 o Benaethiaid Llywodraethau gwledydd NATO a gwledydd partner ddod i’r uwchgynhadledd, ynghyd â Gweinidogion Tramor ac Amddiffyn a chynrychiolwyr eraill.