Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Medi 2014

Ymwelwyr â Gŵyl No 6 yn cael cyfle i brofi’r Gymraeg

Bydd dros 10,000 o bobl o bob cwr o Brydain a thu hwnt yn teithio i Wyl Rhif 6 ym Mhortmeirion y penwythnos yma.

 Pob blwyddyn mae’r wyl fechan hon yn cynyddu yn ei phoblowgrwydd oherwydd ei lleoliad arallfydol, a’i chymysgedd unigryw o ddiwylliant, celf a cherddoriaeth.

Eleni  bydd  ymwelwyr i’r wyl yn cael cyfle i ddysgu ychydig o Gymraeg tra maent yno.  Pob bore fe fydd yna ddosbarth Cymraeg gyda Ann Bierd, tiwtor gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion y Gogledd yn cael eu trefnu drwy gaffi Tim Burgess, Tim Peaks Cafe.

Dywedodd Ifor Gruffydd Rheolwr y Ganolfan, ym Mhrifysgol Bangor: “Mae’n wych gweld y bydd ymwelwyr  i wyl lewyrchus fel hon yn cael cyfle i gael blas o’r iaith Gymraeg tra’n ymweld â’r ardal.  Mae’n gyfle unigryw a dwi’n gobeithio bydd pobl yn mwynhau.”

Rhannu |