Mwy o Newyddion
Arddangosfa yn rhoi sylw i rôl menywod Abertawe yn ystod y rhyfel
Mae hanes nyrs o Landŵr a aeth i nyrsio yn Serbia ym 1915 yn cael ei hadrodd mewn arddangosfa newydd yn Abertawe sy'n tynnu sylw at rôl menywod yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae stori Elizabeth Clements, a ddioddefodd yn fawr ar ôl cael ei chipio gan luoedd Awstria, ymysg y rhai sydd wedi'u cynnwys mewn arddangosfa yn Llyfrgell Ganolog y ddinas drwy gydol mis Medi.
Bydd hefyd yn cynnwys nifer o erthyglau a ffotograffau o bapurau newydd sy'n dangos menywod Abertawe yn ymgymryd â rolau newydd yn ystod y rhyfel, ganrif yn ôl. Roedd menywod yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith ar y ffrynt cartref, gan gynnwys gwaith tunplat, glanhau ffenestri, gyrru a ffermio. Cynhaliwyd gêm pêl-droed hyd yn oed, rhwng menywod Abertawe a menywod Caerdydd.
Mae'r arddangosfa wedi'i threfnu gan Gyngor Abertawe Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys stori athrawes o Abertawe a lwyddodd i ddianc o long a oedd yn suddo ar ôl cael ei tharo gan ffrwydryn, ynghyd ag atgofion trist am fenywod o Abertawe a laddwyd mewn damweiniau mewn ffatri arfau ym Mhen-bre ger Llanelli.
Bydd yr Athro Deirdre Beddoe yn y Llyfrgell Ganolog ddydd Sadwrn 6 Medi i roi sgwrs am 2pm a fydd yn canolbwyntio ar fenywod a fu'n gweithio yn y diwydiant arfau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Meddai Steve Hardman, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Cyngor Abertawe, "Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau a sgyrsiau eisoes yn y Llyfrgell Ganolog eleni, a bydd hynny'n parhau hyd at 2018 wrth i ni goffáu canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Yn aml, nid yw rôl menywod yn y gwrthdrawiadau hyn yn cael ei chydnabod ond mae'r arddangosfa newydd hon yn rhoi sylw newydd i'r caledi a'r boenedigaeth a ddioddefwyd gan fenywod Abertawe 100 mlynedd yn ôl.
"Mae'n un o'r gweithgareddau niferus a drefnwyd gan Gyngor Abertawe i nodi'r canmlwyddiant a rhoi cyfle i bobl fyfyrio ar aberth ein cyndeidiau."
Gellir gweld arddangosfa am Abertawe a'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Abertawe tan 18 Ionawr hefyd a dangosir cyfres o ffilmiau sy'n ymwneud â'r rhyfel yn yr atyniad hanesyddol dros y misoedd nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys Gallipoli, ddydd Sul 7 Medi am 2pm, Private Peaceful ar 21 Medi am 2pm ac A Farewell to Arms ar 5 Hydref am 2pm.