Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Medi 2014

Cerddwyr yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru er cof am Tesni

Mae cwmni trelars yn trefnu taith gerdded noddedig er cof am ferch yn ei harddegau Tesni Edwards, a fu farw o gyflwr heb ei ganfod ar ei chalon.

Mae’r cerddwyr, yn cynnwys tad Tesni, Jason, sy'n gweithio i Ifor Williams Trailers, yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a gafodd ei alw allan ar frys mewn ymgais aflwyddiannus i achub bywyd y ferch 14 oed ar ôl iddi ddisgyn yn anymwybodol.

Hefyd yn cymryd rhan yn y daith gerdded ar ddydd Sul, 14 Medi, bydd ei mam Dwysan, sy'n Rheolwr Practis ym meddygfa Pen-y-Bont yn Llanelwy.

Cafodd Tesni ei chymryd yn wael ychydig o wythnosau cyn ei phen-blwydd yn 15 oed ym mis Ebrill y llynedd, er nad oedd erioed wedi dangos unrhyw arwydd o broblemau iechyd o'r blaen.

Bydd taith gerdded Taith Tesni yn dilyn y llwybr yr oedd Tesni yn arfer ei gymryd bob bore i Ysgol Dinas Brân yn Llangollen lle'r oedd yn ddisgybl poblogaidd.

Mae cannoedd o bobl, gan gynnwys cyd-ddisgyblion Tesni a llawer o gydweithwyr ei thad yn ffatrïoedd y cwmni trelars yng Nghynwyd a Chorwen, eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan.

Mae Ifor Williams Trailers wedi addo cyfrannu swm cyfatebol i'r swm a godir gan y daith gerdded.

Bydd y bobl sy'n gwneud y daith yn ymgynnull yng nghae chwarae Tŵr Llangollen lle mae digon o le i bobl barcio eu ceir.

Mi fydd yna bump opsiwn o ran y daith gerdded, yn amrywio mewn pellter o 14 milltir i 1.5 milltir, er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu yn cymryd rhan. Mae hyd y daith hiraf yn cynrychioli un filltir am bob blwyddyn o fywyd Tesni.

Bydd bysus yn cael eu trefnu i gludo pawb sydd wedi cofrestru i’w man cychwyn, gyda'r criw cyntaf o gerddwyr yn gadael Llangollen am 10yb er mwyn iddynt ddechrau ar y daith hiraf 45 munud yn ddiweddarach o flaen y ffatri yng Nghynwyd.

Yn ôl y cwmni, mae angen i unrhyw un sydd am gymryd rhan gofrestru er mwyn sicrhau y gallant drefnu digon o gludiant.

Meddai Dwysan, mam Tesni: “Rydym yn falch iawn fod Ifor Williams Trailers yn trefnu’r daith er cof am Tes.

“Hyd nes i hyn ddigwydd gyda Tes, doedden ni ddim wedi sylweddoli fod Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n fawr ar roddion ac am y rheswm hwnnw rydym wedi ceisio eu cefnogi nhw ers hynny.

“Does neb yn gwybod pryd y byddan nhw angen yr Ambiwlans Awyr ac mae ymateb cyflym yn amlwg yn achub bywydau a dyna pam rydym ni’n teimlo mor angerddol am eu cefnogi.

“Rwy'n siŵr y byddai Tesni yn falch o'r hyn rydym yn ei wneud oherwydd mae unrhyw beth cadarnhaol y gallwn ei wneud allan o'r sefyllfa yma’n beth da.

“Mae'n amhosib disgrifio'r boen rydym yn dal i’w deimlo, ac mae'n frwydr barhaus bob dydd. Roedd yn erchyll ac mae wedi bod yn drist iawn, iawn i ni i gyd.

“Ond rydym yn cadw i fynd a rhyngom mae gennym ddau fab, Morgan a Findlay, felly rydym yma ar eu cyfer nhw ac rydym yn trio bob dydd ond mae wedi bod yn dorcalonnus.”

Datgelodd Jason, tad Tesni, sy’n gweithio yn yr adran storfeydd yn Ifor Williams Trailers, bod nifer o'r cludwyr a’r gyrwyr lorïau y mae'n delio â nhw eisoes wedi cyfrannu am eu bod wedi cael eu cyffwrdd gan yr hyn a ddigwyddodd.

Meddai: “Rydym yn gobeithio codi llawer o arian gan fod hwn yn achos mor wych.

“Roeddwn yn awyddus iawn i wneud rhywbeth er cof am Tes ac rwy'n credu bod hyn yn beth gwych a hoffwn ddiolch i Ifor Williams Trailers.

“Rydym wedi cael ymateb da iawn ac mae llawer o bobl gan gynnwys cydweithwyr yn mynd i fynd ar y daith.”

Yn ôl Carole Williams, o Ifor Williams Trailers, mae pawb yn y cwmni wedi eu tristau’n fawr gan yr hyn ddigwyddodd i Tesni.

Dywedodd: “Roedd y teimlad o fod yn hollol ddiymadferth wrth fethu â helpu i liniaru'r boen i deulu Tesni yn ein llethu ni i gyd.

“Roedd Tesni yn berson hardd, ar fin cofleidio anturiaethau bywyd a gwneud penderfyniadau ynghylch ei dyfodol. Mae bwlch anferth wedi’i adael ym mywydau pawb a oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu.

“Er gwaethaf ymdrechion gorau criw Ambiwlans Awyr Cymru i gyrraedd Tesni a mynd â hi i'r ysbyty, yn anffodus roedd cyflwr Tesni yn golygu nad oedd y tîm meddygol yn gallu ei helpu.

"Rydym wedi cysylltu’n agos gyda Jason a Dwysan i drafod ffordd addas o anrhydeddu’r cof am Tesni. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gydag Ysgol Dinas Brân, yn enwedig y Dirprwy Bennaeth, Mr Mark Hatch a'r Pennaeth, Mr Martyn Froggett.

“Ar y cyd mi wnaethon ni benderfynu, pan fyddai’r amser yn iawn, y byddem yn trefnu taith gerdded noddedig gyda theulu a ffrindiau Tesni, cydweithwyr Jason a Dwysan a phawb sydd am gerdded er cof am fywyd Tesni a dangos eu cefnogaeth i'w theulu.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i gymryd rhan yn Taith Tesni neu i gyfrannu rhodd, anfonwch ebost at  taithtesni@iwt.co.uk neu ewch i’r cyfrif  Twitter @TaithTesni, y dudalen Facebook, Taith Tesni neu wefan Just Giving, www.justgiving.com/Taith-Tesni

Rhannu |