Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Awst 2014

Trio deall clefyd y siwgr

Mae tua phedwar miliwn o bobl yn byw â diabetes yn y Deyrnas Gyfunol, ffigwr sy'n rhagweld o gynyddu i 6.25 a chostio £16.9 biliwn i GIG (17% o'i gyllideb flynyddol) erbyn 2035.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Noson Wybodaeth Clefyd y Siwgr nos Fercher nesaf 3 Medi rhwng 7-9yh yn Adeilad Carwyn James ar Gampws Penglais, sydd wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth am glefyd y siwgr a chynnig cymorth.

Mae'r noson yn cynnig gwahoddiad agored i bawb sydd â diddordeb neu sydd eisiau gofyn cwestiynau am ddiabetes a'i reolaeth. Caiff ei drefnu gan Dr Ffion Curtis, ymchwilydd yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd, “Fe wnaeth astudiaeth ymchwil diweddar a gynhaliwyd gennym ni a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nodi bod pobl sy'n byw yn ac o amgylch Aberystwyth, mewn perygl o ddiffyg fitamin D annigonolrwydd yn ystod misoedd y gaeaf.

"Y brif ffynhonnell o fitamin D yw amlygiad i'r haul. Mae’n amlwg ers peth amser y gall lefelau isel o fitamin D gynyddu'r risg o gyflyrau niferus gan gynnwys sglerosis ymledol, CVD, ac osteoporosis - ac yn fwy diweddar, mae wedi bod yn gysylltiedig â diabetes.”

Mae mwy na 160,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis clefyd y siwgr, bron i 5% o'r boblogaeth, ac mae disgwyl iddo godi i 10.3% yn 2020 a 11.5% yn 2032.

Mewn pobl sydd â chlefyd y siwgr ni all y corff wneud defnydd priodol o'r glwcos sydd yn y gwaed. Golyga hyn nad oes modd defnyddio’r glwcos yn effeithiol fel tanwydd, ac o ganlyniad ceir lefelau uwch o glwcos yn y gwaed.

Mae clefyd y siwgr math 1 yn cael ei drin gan bigiad inswlin dyddiol. Mae clefyd y siwgr math 2, sy’n cyfrif am rhwng 85% a 95% o'r holl achosion, yn cael ei drin gyda meddyginiaeth a / neu inswlin. Mae'r driniaeth a argymhellir ar gyfer pob math o glefyd y siwgr yn cynnwys bwyta’n iach ac ymarfer corf rheolaidd.

Ychwanegodd Dr Curtis, "Un o'r prif resymau yr ydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o glefyd y siwgr yw bod ein ffordd o fyw yn newid."

"Mae’r hyn yr ydym yn ei fwyta wedi newid, ac rydym yn gwneud llai o ymarfer corf o lawer, ac yn treulio mwy o amser yn eistedd yn ein ceir ac o flaen sgriniau cyfrifiadur. Erbyn hyn rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y plant sy'n datblygu clefyd y siwgr math 2. Os na chaiff ei reoli a’i drin yn y modd priodol, gall clefyd y siwgr arwain at gymhlethdodau gan gynnwys clefyd y galon a strôc. "

"Fodd bynnag, gall llawer o newidiadau bychain i'n bywydau, ac i fywydau ein teuluoedd gyfrannu at leihau'r perygl o ddatblygu clefyd y siwgr, a chynorthwyo i reoli'r cyflwr."

Darganfuwyd canlyniadau astudiaeth Dr Curtis fod perthynas arwyddocaol rhwng fitamin D a glwcos yn y gwaed, a bod pobl â lefelau uwch o fitamin D yn tueddu i fod â lefelau is o glwcos yn eu gwaed.

I barhau ei gwaith yn y maes hwn, mae Dr Curtis yn awr yn cynllunio i gynnal gwerthusiad o raglen diabetes hunan-reoli newydd. Pwrpas y rhaglenni hunan-reoli yw rhoi'r sgiliau a'r hyder i berson sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys ymchwilwyr, Dietegydd ac astudiaeth achos claf. Fe fydd aelodau o grŵp cymorth lleol Diabetes UK yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau ynghyd a gweithwyr gofal iechyd ac ymchwilwyr.

Bydd y noson yn cynnwys gwybodaeth am ffordd o fyw a rheoli diabetes a hefyd yn darparu lluniaeth a thaith o amgylch adeilad lle mae ymchwil i ddiabetes yn cael ei wneud.

Mae croeso cynnes (gyda the a choffi) yn cael ei estyn i bawb fyddai'n dymuno dod draw i gael gwybod mwy am glefyd y siwgr, ac ymchwil i glefyd y siwgr. Os hoffech fynychu neu wybod mwy am y digwyddiad, cysylltwch â Ffion Curtis drwy ffonio 01970 622576, neu e-bost fic7@aber.ac.uk

Rhannu |