Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Awst 2014

Gwynedd yn croesawu swyddi newydd ardal Dysynni

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddiad gan y cwmni newydd o Dywyn, ‘Brighter Foods’ y byddant yn agor cyfleuster cynhyrchu yn y dref a fydd yn darparu swyddi newydd o bwys ar gyfer ardal Meirionnydd.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda sylfaenwyr y cwmni dros y misoedd diwethaf i ddatblygu eu cynigion ac i sicrhau cefnogaeth ariannol ar gyfer y fenter.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd: “Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer Tywyn ac ardal ehangach Dysynni. Fel Cyngor, rydym wedi bod yn gweithio gyda Brighter Foods i ddatblygu eu cynlluniau, ac rydym yn falch iawn eu bod wedi dwyn ??ffrwyth.

“Fel rhan o'n Cynllun Cyflogaeth Meirionnydd, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid i ddenu buddsoddiad a chyfleon swyddi i'r rhan yma o Wynedd. Mae'r cyhoeddiad hwn a fydd yn cynhyrchu mwy na 35 o swyddi newydd yn hwb enfawr i'r ymdrechion hyn.”

Cyhoeddiad Brighter Foods ydi’r newyddion da diweddaraf ar gyfer economi Meirionnydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer o fentrau busnes uchelgeisiol sy'n adeiladu ar gryfderau'r ardal wedi cael eu sefydlu yn amrywio o atyniadau awyr agored cyffrous yn ardal Ffestiniog i fuddsoddiadau yn seiliedig ar y sector hedfan yn Llanbedr.

Llun: John Wynn Jones

Rhannu |