Mwy o Newyddion
10 niwrnod o chwaraeon yn rhoi hwb i broffil y ddinas
Mae proffil Abertawe fel dinas chwaraeon wedi cael hwb aruthrol ar ôl 10 niwrnod llawn llwyddiant ym mhob math o chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, athletau, nofio a hwylio.
Dechreuodd y cyffro yn stadiwm Old Trafford ym Manceinion lle gwelodd cannoedd ar filoedd o gefnogwyr pêl-droed Ddinas Abertawe yn curo Manchester United ar ddiwrnod cyntaf tymor yr Uwch-gynghrair.
Daeth y cyfan i ben gyda medal aur Pencampwriaeth Ewropeaidd i Jazz Carlin, sawl medal ym Mhencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC a llwyddiant ysgubol ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd Hwylio Dart 18.
Rhoddwyd y byd pêl-droed ar dân pan gurodd tîm Gary Monk Manchester United ac enillodd Jazz Carlin, sy'n hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, ei hail fedal aur yr haf hwn am nofio yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn Berlin gan ychwanegu at yr un a enillodd yng Ngemau'r Gymanwlad.
Meddai Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, "Mae wedi bod yn 10 niwrnod gwerth chweil i statws Abertawe fel dinas chwaraeon. Roedd yn wych gweld cynifer o gefnogwyr para-chwaraeon yn rhoi hwb i'r athletwyr ym mhentref chwaraeon Prifysgol Abertawe yn Sgeti gyda'r bencampwriaeth Dart 18 yn cael ei chynnal i lawr y ffordd yn y Mwmbwls.
Ychwanegodd y Cyng. Bradley, "Mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn cyrraedd cynulleidfaoedd dros y teledu a'r radio ar draws y DU, Ewrop a gweddill y byd. Mae athletwyr ym mhencampwriaeth yr IPC yn arbennig wedi bod yn canmol yr awyrgylch a'r gefnogaeth yn Abertawe mewn cyfweliadau darlledu.
"Mae'r digwyddiadau hyn wedi dod yn gyflym iawn ar ôl llwyddiant y ddinas yng Ngemau'r Gymanwlad, a bydd y cyfan yn helpu i atgyfnerthu'n henw da fel dinas chwaraeon.
"Ond nid hyrwyddo ein statws fel cartref chwaraeon rhagorol yw'r unig nod. Mae'r cyngor hefyd yn gweithio'n galed i ddefnyddio'r digwyddiadau arbennig hyn a'r holl lwyddiannau i ysbrydoli mwy o bobl i fod yn actif."
Enillodd Abertawe'r hawl i gynnal Pencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC ar ôl i dimau o Seland Newydd a Mecsico, a fu yma'n hyfforddi ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain 2012, ganmol y cyfleusterau oedd ar gael a'r gefnogaeth frwdfrydig a gawsant gan drigolion Abertawe.
Mae tîm Abertawe Actif Cyngor Abertawe a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed drwy'r haf i annog trigolion lleol, a ysbrydolwyd gan yr holl lwyddiant diweddar ar garreg eu drws, i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff eu hunain.
Ar wahân i chwaraeon ac ymarfer corff strwythuredig yn y gampfa, mae'r cyngor hefyd yn hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw a chadw'n heini drwy weithgareddau megis garddio, mynd am dro i'r parc neu ar y traeth.
I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau newydd, yr hyn sydd ar gael mewn canolfannau hamdden cymunedol a'n parciau, Pwll Cenedlaethol Cymru ac i gael dolenni i glybiau chwaraeon lleol, ewch i
www.abertaweactif.com neu www.walesnationalpoolswansea.co.uk