Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Awst 2014

Sheen yn recordio darnau o gerddi Dylan ar gyfer prosiect canol y ddinas

Bydd seren Hollywood, Michael Sheen, yn un o'r lleisiau y bydd ymwelwyr â chanol dinas Abertawe yn ei glywed cyn bo hir yn darllen darnau o gerddi Dylan Thomas.

Mae'r actor a fu yn y ffilmiau Frost a Nixon wedi cadarnhau y bydd yn cymryd rhan mewn prosiect o'r enw Cerddi ym mis Hydref a fydd yn helpu i nodi canmlwyddiant y saer geiriau eleni.

Bydd y prosiect yn cynnwys cyfres o recordiadau munud o hyd i ddathlu rhai o weithiau enwocaf Dylan Thomas a William Shakespeare. Caiff y recordiadau byr eu gosod mewn lleoliadau a fydd yn cynnwys yr orsaf drenau, Marchnad Abertawe, Theatr y Grand, y No-Sign Wine Bar a Thafarn Uplands.

Mae'r prosiect Cerddi ym mis Hydref, a gynhelir o 25 Hydref tan 9 Tachwedd, yn rhan o raglen ddigwyddiadau a gweithgareddau oddi ar y safle Oriel Gelf Glynn Vivian.

Mae testunau eraill a gaiff eu recordio gan actorion Cwmni Brenhinol Shakespeare wedi'u dewis gan CREW, Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru Prifysgol Abertawe.

Meddai Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, "Mae'n newyddion gwych bod Michael Sheen wedi cytuno i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn - mae ei lais yn adnabyddus ledled y byd a bydd y miloedd o bobl sy'n ymweld â chanol dinas Abertawe ddiwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd yn ei adnabod ar unwaith. Mae hefyd yn briodol iawn bod un o feibion cyfoes enwocaf Bae Abertawe yn darllen darn o gorff cyfoethog o waith gan ddyn a wnaeth mwy yn ystod ei oes i roi ein hardal ar y map nag unrhyw un arall drwy gydol hanes."

Mae Cerddi ym mis Hydref yn un rhan o ?yl 2014 Dylan Thomas Cyngor Abertawe sy'n para blwyddyn. Mae nodweddion eraill yr ?yl sy'n parhau yn cynnwys ailagor arddangosfa barhaol Dylan Thomas yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe.

Mae'r arddangosfa barhaol bellach ar gau dros dro wrth i waith fynd yn ei flaen i wella mynediad, digiteiddio arteffactau a chyflwyno gwybodaeth newydd am hanes bywyd Dylan, yn sgîl grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bydd ardal yr arddangosfa barhaol hefyd yn cael ei hailwampio, a cheir man dysgu newydd ac ystafell arddangosfeydd dros dro.

Trwy gydol y cyfnod cau, gall ymwelwyr weld arddangosfa nodiaduron Dylan Thomas sy'n parhau tan 31 Awst, cyn i arddangosfa lawysgrifau newydd gychwyn ar 13 Medi. Mae arddangosfa am Abertawe Dylan hefyd yn dal i fynd yn ei blaen yn Amgueddfa Abertawe. 

Rhannu |