Mwy o Newyddion
Golau gwyrdd i drenau ychwanegol rhwng Abergwaun a Chaerfyrddin
Yn sgil adolygiad o’r gwasanaeth arbrofol a gyflwynwyd am gyfnod o dair blynedd yn 2011, mae Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi cadarnhau y bydd y gwasanaethau trên ychwanegol rhwng Abergwaun a Chaerfyrddin yn parhau.
Cafwyd ymateb cadarnhaol oddi wrth y gymuned leol, oddi wrth deithwyr a busnesau i’r pum gwasanaeth dwyffordd ychwanegol, ac mae’r ymchwil yn dangos bod y gwasanaethau ychwanegol hyn wedi dod â manteision economaidd a chymdeithasol.
Mae’r Gweinidog wedi cytuno bellach i estyn y gwasanaeth tan i’r fasnachfraint bresennol ddod i ben yn 2018.
“Mae’r gwasanaethau ychwanegol rhwng Abergwaun a Chaerfyrddin wedi profi’n boblogaidd iawn gyda theithwyr, maen nhw wedi helpu pobl i fanteisio ar wasanaethau ac wedi rhoi hwb i dwristiaeth a busnesau lleol eraill,” meddai.
“Mae arolygon a gynhaliwyd ymhlith teithwyr, y gymuned leol a busnesau yn dangos bod angen y gwasanaethau ychwanegol hyn. Maen nhw wedi’i gwneud yn haws i bobl fanteisio ar wasanaethau mewn ysbytai, wedi gwella twristiaeth yn Sir Benfro ac wedi helpu i leihau dibyniaeth ar geir.”
Mae pob un o’r gorsafoedd yn Sir Benfro sy’n cael eu gwasanaethu gan y trenau hyn wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n eu defnyddio, ac mae nifer y teithwyr i Abergwaun, Wdig a Phorthladd Abergwaun wedi dyblu ers i’r trenau ychwanegol gael eu cyflwyno yn 2011.
Dywedodd dros 60 y cant o’r teithwyr a gynhwyswyd yn yr arolwg na fyddai wedi bod yn bosibl iddyn nhw fynd ar y daith yr oeddent yn bwriadu mynd arni heb y gwasanaethau ychwanegol hyn. Yn ôl busnesau, roedd y trenau ychwanegol wedi helpu i ddenu ymwelwyr i’r ardal, ac wedi arwain at gynnydd yn y niferoedd a oedd yn defnyddio llwybr yr arfordir a’r llongau fferi i Iwerddon ac yn ôl.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Lewis, yr Aelod Cabinet dros Trafnidiaeth: “Mae cyhoeddiad y Gweinidog am barhad y gwasanaethau rheilffordd i Abergwaun yn un i’w groesawu’n fawr ac yn hwb y mae dirfawr ei angen ar y Sir. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n teithio i’r ardal o ganlyniad i’r gwasanaethau ychwanegol hyn, ac mae hynny wedi bod o fudd mawr i’r economi leol, i’r amgylchedd, ac i gynhwysiant cymdeithasol.”
Yn ôl Stephen Hale, Cadeirydd Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro: “Mae Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro yn wirioneddol falch bod y gwasanaethau trên ychwanegol i Abergwaun ac Wdig yn mynd i barhau. Rydyn ni’n ddiolchgar am y cyfle a gawson ni i ddangos bod y trenau ychwanegol wedi bod o fudd mawr i’r economi a’r gymuned leol dros y tair blynedd diwethaf.
Rydyn ni’n hynod falch y bydd y gwasanaethau ychwanegol hyn yn parhau i leihau’r ymdeimlad o fod wedi’u hynysu sydd i’w weld ymhlith pobl yn ardaloedd gwledig Gogledd Sir Benfro. Byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn helpu i gryfhau’r economi leol, yn enwedig y diwydiant twristiaeth, sydd mor bwysig inni.”
Dywedodd Jeremy Martineau, Ysgrifennydd Mygedol y Siambr Fasnach a Thwristiaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn benderfyniad doeth gan ein bod yn gweithio’n ddygn i adfywio’r ardal. Mae’r gallu i deithio ar y trên o fudd i drigolion lleol, yn gyfle pwysig i ymwelwyr ac mae’n ein cysylltu â gweddill Cymru mewn ffordd ecogyfeillgar. Roedd hi’n bleser cael helpu gyda’r ymchwil sydd wedi galluogi’r Gweinidog i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer ein cymuned gyfan.”