Mwy o Newyddion
Benthyciadau Cychwyn Busnes yn helpu i greu bron 300 o fusnesau newydd yng Nghymru
Mae Benthyciadau Cychwyn Busnes – sy’n darparu cyllid llog isel ar gyfer entrepreneuriaid – wedi helpu bron 300 o fusnesau newydd ers i’r benthyciadau hynny gael ei lansio yng Nghymru brin ddeng mis yn ôl.
Hyd yma, mae 291 o fusnesau newydd ledled Cymru wedi cael benthyciadau sy’n werth cyfanswm o £2.2 miliwn, ac mae’r cyllid hwnnw wedi helpu i greu busnesau newydd sbon ac i gefnogi mentrau a gafodd eu sefydlu’n ddiweddar.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Mae’r ffigurau hyn yn galonogol iawn ac mae’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y benthyciadau llog isel hyn yn dangos eu bod yn cael cryn effaith, gan helpu pobl i sefydlu busnesau newydd sbon a rhoi help llaw i fentrau sydd newydd gael eu sefydlu.
“Mae’r benthyciadau’n rhoi hwb i entrepreneuriaid o bob oed ac maen nhw bellach yn rhan bwysig o’r pecyn cymorth ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau. Nod y pecyn hwnnw yw sicrhau mwy o fusnesau newydd.”
Mae’r benthyciadau, a lansiwyd yng Nghymru ym mis Hydref 2013, ar gael o dan y Gwasanaeth Cychwyn Busnes a gynigir gan Busnes Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru. Roedd cynnig benthyciadau llog isel i fusnesau newydd yn un o’r argymhellion a wnaed yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau, a gynhaliwyd o dan arweiniad yr Athro Dylan Jones- Evans.
Darperir y benthyciadau hyn o dan gynllun sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU, ac mae’n rhaid eu talu’n ôl ymhen pum mlynedd, a hynny ar gyfradd llog sefydlog, sy’n 6% ar hyn o bryd. Yr uchafswm y ceir ei fenthyca yw £25,000, ac mae’r cyfartaledd yng Nghymru yn £7,658.
Dywedodd Tim Sawyer, Prif Swyddog Gweithredol Start Up Loans: “Ar ôl gweld bron 300 o fusnesau’n cael eu creu, ac ychydig dros £2 filiwn yn cael eu benthyca, rydyn ni wedi’n plesio’n fawr â llwyddiant y cynllun yng Nghymru hyd yn hyn.
“Roedd hi’n amlwg bod awydd mawr ymhlith entrepreneuriaid o bob oed i fentro arni ac i ddechrau eu busnesau eu hunain. Byddwn ni’n parhau i ddiwallu’r galw hwnnw ac i hyrwyddo’r ysbryd o fentro sy’n fyw ac yn iach yng Nghymru.”
Mae’n rhaid cyflwyno achosion busnes cadarn gydag unrhyw geisiadau. Mae rhagor o wybodaeth a chymorth ar gael oddi wrth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.
Llun: Edwina Hart