Mwy o Newyddion
Gwyliau a digwyddiadau’n hwb i economi Gwynedd
Mae’r amrywiaeth helaeth o wyliau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Ngwynedd yr haf yma eisoes wedi rhoi hwb ariannol o £4 miliwn i economi’r sir.
Dywed Cyngor Gwynedd fod cefnogi digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol yn profi i fod yn llwyddiant ysgubol wrth i gwmnïau lleol elwa’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ohonynt.
Ymysg uchafbwyntiau’r haf hyd yma roedd
* Llanc y Llechi a Ras yr Wyddfa a ddenodd gyfanswm o tua 10,000 o bobl rhyngddynt i ardal Llanberis
* Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala a ddenodd gystadleuwyr ac ymwelwyr o bob rhan o Gymru yn ystod wythnos olaf mis Mai
* Wakestock – G?yl y Môr ym mhenrhyn Ll?n
* Etape Eryri lle bu tua 1,500 o bobl o bob oedran yn beicio o amgylch Gwynedd
* G?yl Drum House Ffest lle gwelwyd beicwyr mynydd o bob rhan o’r byd yn dod i’r Blaenau i ruthro i lawr y llethrau llechi
Mae disgwyl i’r gweithgareddau sydd eto i ddod gyfrannu £1 miliwn ychwanegol i’r economi cyn diwedd y flwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys:
* Toppers Worlds - rasus cychod hwylio ym Mhwllheli
* Festival No6 ym Mhortmeirion sydd wedi datblygu i fod yn ?yl adnabyddus drwy Brydain bellach
* Rasio’r Trên yn Nhywyn lle bydd tua 2,000 o bobl yn rhedeg ar y bryniau a’r llwybrau o amgylch y dref.
* Ac i ddarfod y tymor Triathlon Pellter Canolig y Bala a Marathon Eryri ym mis Hydref.
Wrth groesawu llwyddiant y gweithgareddau, dywedodd y Cyng John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi Cymuned a Hamdden Cyngor Gwynedd: “Mae cefnogi digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol yn weithgaredd hynod bwysig i ni fel Cyngor.
"Maen nhw’n creu teimlad o falchder a bwrlwm yn ein cymunedau, ac maen nhw hefyd yn arf pwerus i godi ymwybyddiaeth o Wynedd a’i thrigolion a’i rhinweddau i ymwelwyr o du allan i’r ardal. Mae’n gyfle heb ei ail hefyd i ddangos Gwynedd fe lle llawn bwrlwm a deniadol i fuddsoddi ynddo.”
Ychwanegodd Sioned Williams, Pennaeth Economi Cymuned a Hamdden y Cyngor: “Mae buddsoddiad cymharol fechan a chymorth ymarferol gan y Cyngor i’r digwyddiadau yma yn talu ar ei ganfed i’r sir. Am fuddsoddiad o £50,000 bydd yr economi’n elwa o hwb o tua £5 milwn erbyn diwedd y flwyddyn yn sgil y digwyddiadau hyn.”