Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Awst 2014

Galw am gefnogaeth i Apêl DEC Cymru Argyfwng Gaza

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi addo ei gefnogaeth i Apêl DEC a arweinir yng Nghymru gan asiantaethau cymorth Cymorth Cristnogol, Tearfund, CAFOD, Oxfam Cymru, y Groes Goch Brydeinig, Achub y Plant, Islamic Relief ac Age Cymru ac yn annog pobl Cymru i barhau i roi.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Dim ond gyda chymorth rhyngwladol sylweddol y gall anghenion dyngarol dioddefwyr y gwrthdaro yn Gaza gael eu diwallu. Mae cannoedd o filoedd o bobl wedi ffoi o'u cartrefi ac maent mewn angen dybryd am fwyd, dŵr, cysgod a gofal meddygol.

"Y ffordd orau y gall pobl yng Nghymru sicrhau eu bod yn rhoi help i’r rhai y mae’r angen mwyaf dybryd arnynt yw cyfrannu drwy gyfrwng apêl y Pwyllgor Argyfyngau, ac felly byddwn yn annog pobl i gyfrannu beth bynnag a allant i’r apêl hon."

Mae angen arian ar frys: nid oes gan boblogaeth gyfan Gaza fynediad digonol i ofal meddygol ac mae tua 1.4 miliwn o bobl heb fynediad, neu mae ganddynt fynediad cyfyngedig iawn i ddŵr a chyfarpar glanweithdra. Dros y mis diwethaf mae cannoedd a miloedd o bobl wedi cael eu gorfodi i ffoi a 65,000 o bobl wedi gweld eu cartrefi’n cael eu dinistrio neu eu difrodi y tu hwnt i’w trwsio.

Er pan gafodd y Pwyllgor Argyfyngau (DEC) ei lansio ddydd Gwener diwethaf, gyda hysbysebion teledu a ddarlledwyd ar y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky, yn ogystal â gwasanaeth radio’r BBC a gorsafoedd radio masnachol, mae £7 miliwn (gan gynnwys cymorth o £2m o arian cyfatebol gan Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol) wedi cael ei godi.

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Bydd llawer ohonom wedi gweld y lluniau yn dod allan o Gaza, yn dangos plant a theuluoedd sy'n wynebu cymaint o anawsterau. Hyd yn hyn mae pobl Cymru wedi rhoi yn hael gyda dros £150,000 wedi ei godi o fewn ychydig ddyddiau cyntaf yr apêl hon. Yr wyf yn annog y cyhoedd yng Nghymru i barhau i ddangos eu cefnogaeth i'r apêl hon a helpu'r argyfwng dyngarol cynyddol yn Gaza. "

Ychwanegodd Cadeirydd DEC Cymru Kirsty Davies: "Rydym yn benderfynol, gyda chymorth y cyhoedd yng Nghymru, i rwystro’r argyfwng hwn rhag mynd allan o reolaeth ac mae aelodau asiantaethau DEC Cymru yn gweithio'n galed yn y maes. Byddwn yn annog pobl i ddal ati i roi, er mwyn ein helpu i achub mwy o fywydau.

"Mae'r asiantaethau sy'n aelodau o DEC Cymru a'u partneriaid ar lawr gwlad ond mae angen arian i gwrdd ag anghenion enfawr. Maent yn dibynnu ar haelioni pobl Cymru i wneud gwahaniaeth yn Gaza.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi dangos cefnogaeth tuag at ein hapêl, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol am gefnogi'r Apêl ar y Maes yr wythnos ddiwethaf. Bydd pob punt yn gwneud gwahaniaeth a bydd  £50 yn ddigon i fwydo pum teulu am ddiwrnod a bydd £100 yn gallu darparu pecyn lloches argyfwng a blancedi ar gyfer un teulu."

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud fod y system iechyd yn Gaza ar fin dymchwel,  ac mae 24 o gyfleusterau iechyd wedi eu difrodi ac mae prinder dybryd o feddyginiaethau a chyflenwadau meddygol.

Roedd gwasanaethau yn Gaza yn cael eu hymestyn yn ddifrifol cyn y gwrthdaro, ac yr oedd  80% o'r boblogaeth yn dibynnu ar gymorth. Bellach mae’r angen dyngarol sydd heb ei ddiwallu yn Gaza yn un enfawr a dim ond gyda chymorth rhyngwladol sylweddol y gellir ei ddiwallu mwyach.

I wneud cyfraniad at Apêl Argyfwng Gaza (DEC) ewch i http://www.dec.org.uk, neu ffoniwch y llinell gymorth 24 awr ar 0370 60 60 900, neu gallwch roi dros y cownter yn unrhyw fanc ar y stryd fawr neu swyddfa bost, neu gallwch anfon siec. Gallwch hefyd gyfrannu £5 drwy decstio'r gair SUPPORT i 70000. 

Llun:  Samira merch 7 oed yn eistedd yng ngweddillion ei chartref  yn Shishaya ar ddiwrnod cyntaf y cadoediad 72 awr rhwng Israel a Hamas.Fe lwyddodd teulu Samira ddianc cyn i’r tŷ yn ogystal ar ardal gael ei chwalu. (Llun:Loulou d'Aki/ Achub y Plant)

Rhannu |