Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Awst 2014

‘Dŵr Cymru’n rhybuddio am alwadau ffôn ffug’

Mae Dŵr Cymru’n rhybuddio’i gwsmeriaid i fod yn ofalus os ydynt yn cael galwadau ffôn gan bobl sy’n dweud eu bod yn ffonio ar ran y cwmni – rhag ofn mai galwadau ffug ydynt.

Mae’r cwmni, sy’n darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth i tua 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau yn y rhan fwyaf o Gymru, Swydd Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy, yn cynghori cwsmeriaid:

* Bod holl daliadau Dŵr Cymru’n cael eu cymryd dros linell daliadau awtomatig ddiogel

* Os yw cwsmeriaid yn amheus, dylent ofyn am rif y galwr er mwyn ei ffonio yn ôl.

* Yna gallant ffonio Dŵr Cymru ar 0800 281 141 i ofyn a yw’r alwad yn un ddilys.

*  Os yw cwsmeriaid yn amheus o rywun, dylent ffonio’r heddlu ar 101.

Dywed Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Julia Cherrett: “Rydym yn gwybod am rai achosion lle mae pobl yn ffonio gan esgus eu bod yn gweithio i Dŵr Cymru.

"Os yw cwsmeriaid yn ansicr a yw rhywun sy’n cnocio’r drws neu’n ffonio yn gweithio i Dŵr Cymru go iawn, gallant ffonio Dŵr Cymru ar 0800 281 141 i wneud yn siwr.

“Bydd gweithwyr go iawn yn fodlon aros tra bydd y cwsmer yn gwneud hynny. Rydym yn annog ein cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus ac yn gofyn i bobl ddweud hyn wrth rai y maent yn teimlo y gallai twyllwyr fanteisio arnynt.”

Rhannu |