Mwy o Newyddion
Unigrwydd yn niweidio bywydau pobl sy'n byw gyda chanser
Mae ymchwil gan Gymorth Canser Macmillan yn dangos bod 19,200 o bobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru yn dioddef o unigrwydd o ganlyniad i'w canser - sef tua 1 ymhob 6 (16 y cant).
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Ipsos MORI hefyd yn datgelu effaith niweidiol unigrwydd ar fywydau pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru.
Mae Macmillan wedi amcangyfrif bod mwy nag 20,000 o gleifion canser unig yn y DU bob blwyddyn yn colli apwyntiadau, yn methu â chymryd eu meddyginiaeth yn gywir, yn methu â chasglu presgripsiynau neu hyd yn oed yn gwrthod rhai mathau o driniaeth.
Mae'r ymchwil hefyd yn dangos i bobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru ddweud eu bod yn llai unig na phobl yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Dywedodd Rheolw Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru Susan Morris: ''Mae unigrwydd yn difetha bywydau 19,200 o gleifion canser yng Nghymru.
''Mae'n ddigon anodd cael y newyddion ofnadwy bod gan rywun ganser, heb orfod dioddef effeithiau ychwanegol unigrwydd.
''Mae hon yn broblem sy'n tyfu ac yn un a fydd ond yn gwaethygu wrth i nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ganser yng Nghymru ddyblu o 120,000 i 240,000 yn yr 20 mlynedd nesaf.
''Yn dilyn canlyniadau'r Arolwg diweddar o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru, rydym yn gwybod nad yw pawb sy'n byw gyda chanser yn cael gweithiwr allweddol, asesiad a chynllun gofal ysgrifenedig na'r wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
''Hoffai Macmillan Cymru weld y Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y pethau hyn ar gael i bob claf canser, fel yr amlinellir yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, er mwyn ei helpu i wynebu canser gyda'r holl gymorth sydd ei angen arno.''