Mwy o Newyddion
Esbonio enwau lleoedd
Ydych chi wedi meddwl am darddiad enwau lleol cyfarwydd?
Cafodd Eisteddfodwyr gyfle i ddysgu hanes llu o enwau Sir Gaerfyrddin mewn darlith gan Yr Athro David Thorne cyn bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan.
Trefnwyd a noddwyd y ddarlith ar faes yr Eisteddfod gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn cydweithrediad a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
Un o'r enwau cafodd ei drafod oedd enw un o’r lleoedd agosaf i'r maes sef Machynys.
Dywedodd Yr Athro Thorne: “Mae Machynys yn enw ddiddorol. Mae’n enw sy’n perthyn i ddosbarth o enwau lleoedd yn y Gymraeg sy’n cynnwys yr elfen ‘ma’ – sy’n dynodi tir gwastad neu dir agored; a’r elfen honno sy’n cael ei ddilyn yn aml iawn gan enw person.
“Yn achos Machynys yr ystyr yw’r gwastadedd sy’n eiddo i Cynys.”
Dywedodd mai ‘y gaer ym maridunum’ yw ystyr Caerfyrddin a soniodd sut esblygodd y chwedl am Myrddin.
Mae cyfle i holi’r Athro Thorne ar y Maes heddiw (Dydd Iau) pan fydd yn ymweld a Phabell Fforwm Hanes Cymru.