Mwy o Newyddion
Trais yn arwain at fwy o drais
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi rhyddhau datganiad ar y sefyllfa yn Gaza.
Meddai: "Fel chi, rwyf wedi gwylio’r trais yn gwaethygu yn Gaza gyda thristwch ac arswyd cynyddol."
"Wrth i mi ysgrifennu’r geiriau hyn, mae’r ddwy ochr wedi cytuno ar gadoediad, ac fel unrhyw un call rwy’n gobeithio am gyfnod o dawelwch, trafod a chymodi yn y rhanbarth, ac y bydd modd dechrau o’r newydd ar y daith at heddwch hirdymor.
"Byddwch yn ymwybodol nad yw materion tramor yn faes sydd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, felly nid oes gennym rôl na chyfrifoldeb uniongyrchol o ran ymateb yn ffurfiol i’r gwrthdaro.
"Fodd bynnag, rwy’n cytuno â sylwadau Ed Miliband ar y mater hwn. Mae’n iawn yn galw am roi terfyn ar unwaith ar yr ymladd sydd wedi lladd cynifer o bobl gyffredin, gan gynnwys llawer o fenywod a phlant. Rwyf hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i chwarae rhan fwy blaenllaw.
"Mudiad terfysgol yw Hamas; mae ei benderfyniad i danio rocedi a chloddio twneli i mewn i Israel wedi dod ar gost ariannol a dynol anferthol ac mae gan Israel hawl i’w hamddiffyn ei hun rhag yr ymosodiadau hyn. Fodd bynnag, mae’n anodd cyfiawnhau natur yr ymateb i’r ymosodiadau. Yn syml, nid oes sail resymegol foesol dros barhau â gweithredoedd milwrol yn ddi-baid ar adeg o ddioddefaint i bobl gyffredin yn y ffordd ac yn y niferoedd a welwyd dros y dyddiau diwethaf.
"Rydym yn gwybod o’r profiadau ar ein stepen drws yng Ngogledd Iwerddon bod trais yn arwain at fwy o drais, a dim ond trwy ddulliau gwleidyddol, nid dulliau milwrol, y gellir sicrhau dyfodol teg a diogel i bobl gyffredin Israel a Phalesteina.
"Mae’r cadoediad presennol yn rhoi gobaith y gallwn ni unwaith eto siarad am broses heddwch yn hytrach nag effeithiau trais ofnadwy ac anghyfiawn."