Mwy o Newyddion
Cyfle i ymestyn Ardal Gadwraeth Ffynone
Gallai un o gymunedau mwyaf prydferth Abertawe fod yn ehangu'n fuan.
Gallai ehangu Ardal Gadwraeth Ffynone a mwy o reoliadau dros ddatblygiadau y gellir eu cael yno yn y dyfodol fod ymysg y cynigion yr edrychir arnynt fel rhan o adolygiad Cyngor Abertawe sy'n parhau tan 22 Medi.
Dyfernir Ardal Gadwraeth i ddiogelu ardal o gymeriad arbennig neu o ddiddordeb hanesyddol i gadw neu wella'r priodweddau hynny drwy'r prosesau cynllunio.
Mae Ffynone yn un o'r 31 o ardaloedd cadwraeth yn Abertawe. Derbyniodd y statws ym 1969, oherwydd y rhesi o dai teras cain, sy'n llawn ffasadau talcen stryd. Maer' tai a'r strydoedd, ynghyd â choed a gwyrddni helaeth, yn gwneud yr ardal yn enghraifft ragorol o faestref Fictoraidd.
Mae Ardal Gadwraeth bresennol Ffynone'n cynnwys Parc Cwmdoncyn, Rhodfa Cwmdoncyn, Heol Ffynone, Cilgant St James a Rose Hill. Gallai newidiadau arfaethedig i'r ffin weld ardaloedd fel Cilgant Uplands, Cilgant Eaton, Rhodfa Eden a Heol Sgeti'n cael eu cynnwys.
Meddai'r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, "Mae gennym ddyletswydd o dan y deddfau cynllunio i adolygu ardaloedd cadwraeth ar draws y ddinas a bydd mwy o adolygiadau i ddilyn yn y dyfodol. Gofyniad o'r adolygiadau hyn yw gwirio'r ffiniau a dengys asesiad cychwynnol bod ardaloedd yn ffinio'r Ardal Gadwraeth Ffynone bresennol, ond bod cymunedau fel Cilgant Eaton yn awyddus i gael eu hychwanegu.
"Fel rhan o'r adolygiad, mae'n bwysig i breswylwyr a busnesau y gellid effeithio arnynt ddeall beth yw statws ardal gadwraeth a sut gallai effeithio arnyn nhw. Felly rydym bellach yn ymgynghori tan 22 Medi i roi cyfle i bawb gynnig adborth a fydd yn cael ei ystyried."
Anfonwyd llythyrau i gyfeiriadau yn yr ardal leol ac mae nifer o weithdai cyhoeddus hefyd yn cael eu trefnu. Bydd amserau a lleoliadau'r gweithdai ar gael i unrhyw un sy'n cysylltu â Chyngor Abertawe drwy e-bostio designswansea@swansea.gov.ukneu ffonio 01792 635284.