Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Awst 2014

Yr Eisteddfod - Addysg drwy Gyfrwng y Gymraeg

Mae Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, wedi trafod dyfodol addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin heddiw (dydd Mercher Awst 6) yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ystod ei ymweliad â stondin Cyngor Sir Caerfyrddin, sef Pentre Cyngor Sir Gâr, fore heddiw bu Mr Jones yn cyfarfod â'r Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd y Cyngor, i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Roedd Prif Weinidog Cymru yn trafod yr adroddiad gan Weithgor y Cyfrifiad Cyngor Sir Caerfyrddin ynghyd â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014 – 2017 yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn cynnwys argymhellion yr adroddiad ynghylch y Cyfrifiad a hynny er mwyn creu rhaglen flaengar sy'n datblygu dilyniant dysgu pendant o ran yr iaith rhwng Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Mae'r Cyngor wedi datblygu’r ddarpariaeth yn ardal Dinefwr drwy sefydlu dwy ysgol 2B newydd ac un ysgol uwchradd 2A.

Yn ogystal ystyrir sefydlu ysgol gynradd ddwy ffrwd newydd yn Llanelli fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Buddsoddir yn helaeth mewn adeiladau addas ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn diwallu'r galw, sy'n cynnwys Ysgol y Ffwrnes, Ysgol Parc y Tywyn ac Ysgol Gyfun y Strade.

Maes allweddol o ran hyn o beth yw datblygu deunyddiau marchnata ar gyfer y rhieni, y Llywodraethwyr a'r cyhoedd, ac mae'r adran yn hoelio sylw ar hyn o bryd ar Siarter Iaith Gwynedd gyda golwg ar ei datblygu i ateb anghenion Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal mae adolygiad ar waith o'r ddarpariaeth yn y Canolfannau Iaith gan roi sylw i arferion da yng ngweddill Cymru.

Maes allweddol arall yw paratoi'r asesiad sylfaenol o ran y modd y caiff ysgol ei chategoreiddio ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i ddyheadau'r ysgol/Llywodraethwyr, canran yr addysgu sy'n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, gwybodaeth am ddysgu mathemateg a gwyddoniaeth, asesu medrusrwydd y staff o ran y Gymraeg, a gwybodaeth am gefndir ieithyddol y plant yn yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Carwn dynnu sylw at ymrwymiad yr adran addysg i hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer disgyblion yn y sir, ac rwyf yn falch fod Prif Weinidog Cymru yma heddiw i dderbyn copi o'r strategaeth.”

Mae rhagor o wybodaeth am weledigaeth ac amcanion Sir Gaerfyrddin ar gyfer addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2012 – 2015.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Yma, yn y Llywodraeth, rydyn ni’n derbyn ein rhan ni yn yr her o gryfhau’r iaith at y dyfodol. Mae’n hanfodol bwysig bod arweinwyr ledled Cymru hefyd yn gosod y Gymraeg yn uchel ar yr agenda ar draws yr holl waith y maent yn ei wneud.

“Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu mwy am gynlluniau’r Cyngor i hybu’r Gymraeg, yn enwedig beth sydd ar waith o ran addysg Gymraeg yn y Sir.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gâr y Cyng. Kevin Madge: “Cawsom drafodaeth ddefnyddiol iawn ynglŷn â strategaeth newydd y Cyngor, a gytunwyd gan y Cyngor y mis diwethaf, yn enwedig canolbwyntio ar addysg a’r cynlluniau i gynorthwyo ysgolion i gryfhau sefyllfa’r iaith Gymraeg yn y sir.”

Llun: Kevin Madge

Rhannu |