Mwy o Newyddion
Parchu’r tawelwch trwchus oedd fy mraint
YR oedd mynd am y Gorllewin yng nghwmni Gerallt Lloyd Owen bob amser yn brofiad. Ar ddechrau’r siwrnai, a finnau’n ein gyrru ni’n dau o sgwâr Llandwrog am rhyw dalwrn neu’i gilydd yn y deheubarth, fe fyddai’n hawdd anghofio bod un o feirdd mwyaf yr ugeinfed ganrif yn y car, mor fychan oedd o gorffolaeth yn y sedd wrth fy ymyl. Taweled hefyd oedd y gwagle rhyngom ac a’r ffordd o’n blaenau.
Byddai Gerallt bob amser yn aros amdanaf wrth giat rhif 1, Tai’r Eglwys, a’r rycsac ar ei gefn yn hongian oddi ar ei ysgwydd dde. Trowsus llwyd golau, crys chwys glas tywyll a logo’r gyfres ‘Shotolau’ arno, a chrys o’r un glas golau a’i lygaid ef ei hun. Suddai i’r sedd, croesai ei goeau a phlygai ei freichiau, yn barod at y siwrnai.
Fe ddeuai ambell i ebychiad - “Brenshiach!” – pan dynnai beic allan i’r ffordd yn ddi-rybudd tua Phorthmadog; pan fyddai un ymhlith y cannoedd o danceri Mansel Davies yn ein dal rhag agor y gerbocs i’r pumed yng nghyffiniau Corris Uchaf, fe fyddai’r dreifar yn “grinc”… neu pan ddeuai car yr heddlu i’n cwfwr, cymaint oedd ein drwgdybiaeth ni’n dau o blismyn, yn enwedig y rheiny oedd yn llercian mewn cilfan ar yr A487 uwchben Llanrhystud.
Dysgais yn fuan mai parchu’r tawelwch trwchus oedd fy mraint. Rhoi cyfle i’r sgwrs dyfu o’r sedd wrth fy ochr, yn ara’ bach. Caniatau i gynganeddwr y gweld llais a chlywed llun agor byd y rycsac a gariai ar ei gefn, a rhannu cynnwys ei feddyliau efo fi, yn ei amser ei hun. Waeth doedd Gerallt Lloyd Owen ddim yn ddyn am wagsiarad, gwenieithu na ffalsio; a doedd o ddim yn deall y rheiny a oedd yn ofni’r dweud dim.
Cyn y deuai geiriau, fe ddeuai rhybudd yr anadliad gwichlyd, dwfn o berfeddion ei ysgyfaint bach. Ac yna, gan amlaf, fe ddeuai’r geiriau, “Wyddoch chi, Karen...” Ac wrth gwrs, wyddwn i ddim hanner y pethau y gwyddai o.
Weithiau, fe fyddai am fwrw’i fol. Fe fyddai’n trafod oriau meithion, di-gwsg, y noson gynt. Caem drafod gwleidyddiaeth a datganoli, camgymeriadau iaith cyflwynwyr ifanc S4C neu Radio Cymru... a chawn, am orig fer rhwng dau bentref, olwg ar y pryder a’i meddiannai. Y pryder a wnai iddo ysgrifennu cerddi.
Byddai rhai pobol hefyd yn ei gorddi. Eraill yn ei blagio. Lot fawr yn ei boeni trwy fod mor ddi-hid a gwamal wrth fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd fel Cymry Cymraeg, i fod. Y rheiny a fyddai’n dod ato i frolio’r Talwrn ar ddydd Llun, cyn mynd yn eu blaenau ddydd Mawrth i ysgrifennu sieciau yn Saesneg, i ildio’u hegwyddorion ar wyliau tramor, neu wrth wylio rhaglenni di-ddim ar sianeli Eingl-Americanaidd.
Fe gaed ambell sgwrs am y Teulu Brenhinol – sgyrsiau llawn hiwmor fyddai’r rheiny, yn methu â chymryd y drefn o ddifri’, yn hytrach na bod yn llawn casineb at y sefydliad a’n daliodd yn gaeth ac a wnaeth i’r Gerallt ifanc ddyfalu y modd y byddai Llywelyn ein Llyw Olaf yn wylo gwaed o weld ein taeogrwydd. Ym momentwm y sgwrs, pan fentrwn holi, onid yr un taeogrwydd fyddai ymysg y Cymry llawr gwlad pe bai teuluoedd Llywelyn a’r hen dywysogion Cymreig yn teyrnasu heddiw? Fe fyddai hwnnw’n daeogrwydd gwahanol, beryg, oedd yr ateb.
Pendilio fyddai’r dweud, gan roi syniad hefyd o’r dyn go iawn yn y sedd wrth fy ymyl – tad Mirain, Bedwyr a Nest; cymar, brawd, mab a thaid. Y dyn a arferai fwynhau myfyrio uwch y sinc yn y ffenest ar dalcen rhif 1, Tai’r Eglwys tra’n golchi llestri; y meddwl mawr a’r hiwmor bachgenaidd; a’r eironi mawr yn y llais cras.
Wrth i’r car ddod trwy’r pant ym mhentref Aberarth, gallwn fentro troi at y teithiwr ar fy llaw chwith a dweud efo gwên: “Aberaeron nesaf.” Roedd hynny’n golygu un peth, sef tynnu i mewn i faes parcio’r Celtic yng nghanol y dref o dai pastel, ac anelu am y caffi pysgod a sglodion. Ac unwaith y byddem wedi dewis bwrdd – dim rhy agos at y ffenestri – byddai’r archeb yr un bob tro. “Tjips, wy meddal ond heb fod yn rhy feddal, ac un sosej,” os gwelwch yn dda. Hyn oll wedi’i olchi i lawr gyda phaned o de.
Y siwrneiau adref oedd y mwyaf diddorol bob tro. Wrth orfod gwyro’r daith oherwydd llifogydd yn Derwenlas... neu wrth basio’r fynwent yn nhref Machynlleth. Yno, rai blynyddoedd ynghynt, meddai Gerallt, y cyfansoddodd yr englyn Saesneg hwn, o weld y cerrig beddau yng ngolau’r lleuad:
On every grave I hear a groan, - a sigh
as old as creation,
unmeasured in emotion:
could it be, maybe, my own?
A phan ddeuem tua thre’, a hithau, weithiau, yn tynnu am un o’r gloch y bore, fe welai Gerallt olau car y tu ôl i ni. “Ydech chi’n meddwl mai car heddlu ydi hwnne?” fyddai’r cwestiwn cyntaf, cyn ychwanegu “oherwydd mae o wedi bod yn ein dilyn ni ers Penrhyndeudraeth.” Roedd o’n iawn ambell waith. Dro arall ddim.
A phan gyrhaeddem yn ôl i Landwrog, fe fyddai golau bychan yngynn yn y parlwr. Yno y byddai, wedyn, yn meddwl, yn corddi, yn troi holl ddigwyddiadau’r dydd, yn ei feddwl. Ni ddeuai cwsg ar adegau felly. Ond fe ddeuai cerddi. Tan y diwedd. Ac fe fu’n rhoi trefn ar nifer o gerddi sydd heb weld golau dydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac os y daeth y daith i ben, fe fydd ei eiriau’n aros.