Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Gorffennaf 2014

Cyflwyno deiseb 700 o enwau i fanc yr HSBC

Yn dilyn y cyhoeddiad dirybudd bod HSBC wedi gwneud y penderfyniad i gau ei changen ym Mhenygroes, mae’r Cynghorydd Plaid Cymru lleol ac Arweinydd Gwynedd Dyfed Edwards wedi gweithio gyda'r gymuned a busnesau lleol i gyflwyno deiseb yn gwrthwynebu'r cau. Llofnodwyd y ddeiseb gan bron i 700 o bobl, 52 o'r rhain yn fusnesau lleol yn yr ardal.

"Rydym yn galw ar fanc HSBC i gadw'r gangen ym Mhenygroes, Gwynedd ar agor," meddai Cynghorydd Plaid Cymru, Dyfed Edwards.

"Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at ein pryderon yn lleol ynglŷn â phenderfyniad y banc i gau’r gangen. Mae 679 o drigolion a 52 o fusnesau wedi llofnodi'r ddeiseb sy’n dangos cryfder teimlad y gymuned leol.

"Yn ystod ein cyfarfodydd gyda'r banc, yn dilyn y cyhoeddiad dirybudd, dywedais yn gwbl glir ar sawl achlysur bod angen dirfawr am wasanaeth banc ar bentref gwledig. Mae’n gwasanaethu, nid yn unig bobl leol, ond cwsmeriaid busnes lleol sydd angen cyfleusterau bancio yn rheolaidd.

"Os na allwn gael banc ar agor drwy'r wythnos, dwi wedi gwneud achos i gadw'r gangen ar agor am oriau penodol; hyd yn oed os am un bore ac un prynhawn yr wythnos er mwyn sicrhau nad yw busnesau lleol yn dioddef yn yr ardal wledig hon.

"Bydd y cau yn cael effaith economaidd a chymdeithasol negyddol ar Benygroes. Mae cwsmeriaid busnes, megis siopau, angen cyfleuster bancio ar garreg eu drws, i drafod arian parod sylweddol yn gyson ac mewn ffordd ddiogel.

"Dewisodd HSBC i wneud y cyhoeddiad heb ymgymryd ag unrhyw ymgynghori â'r gymuned leol. Daeth y cyhoeddiad yn sioc i’r ardal, yn enwedig gan fod HSBC wedi gwneud cyhoeddiad cadarnhaol ynglŷn â dyfodol canghennau megis Penygroes yn dilyn ailstrwythuro mawr ym mis Ebrill 2012 - prin ddwy flynedd yn ôl.

“Mae cangen Penygroes yn gwasanaethu poblogaeth wledig a dyma'r unig fanc rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Siawns ei bod hi’n realistig disgwyl i gwmni rhyngwladol fel HSBC - a gofnododd elw o £ 13.6 biliwn ar gyfer diwedd blwyddyn 2013 - i gynnal cangen rhan amser gyda chostau isel iawn yma yng nghefn gwlad Cymru?”

Mae'r ddeiseb wedi ei hanfon i Gaerdydd at Gyfarwyddwr Rhanbarthol HSBC dros ranbarth y de-orllewin a Chymru. Mae'r drws yng nghangen HSBC Penygroes wedi ei gau wythnos yn ôl, ar 27 Mehefin 2014.

Rhannu |