Mwy o Newyddion
Galw am dreblu arian Cymraeg i Oedolion
MAE angen treblu’r arian sy’n cael ei roi i Gymraeg i Oedolion. Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith yn sgil y cyhoeddiad y bydd cyllid Cymraeg i Oedolion yn cael ei dorri gan 7%.
Mae Dyfodol i’r Iaith yn dra siomedig bod y toriadau i Gymraeg i Oedolion – sef £2.3 miliwn – yn fwy na’r arian ychwanegol sy’n cael ei gynnig i’r Mentrau Iaith ac i brosiect ar yr economi yn Nyffryn Teifi.
Mae angen i raglen Cymraeg i Oedolion fod yn rhan ganolog o adfywio’r iaith yn y gymuned yn ôl Dyfodol i’r Iaith.
Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae’n amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi ystyried rôl hollbwysig Cymraeg i Oedolion wrth dargedu rhieni newydd ac wrth hyfforddi gweithlu Cymraeg.
“I wneud gwahaniaeth mae angen gwario swm tebyg i Wlad y Basgiaid, sef tua £40 miliwn y flwyddyn.”
Ychwanegodd: “Dyw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau ni ddim yn ddigon dwys, a does dim rhaglen eang gyda ni i ryddhau pobl o’r gwaith i ddysgu’r iaith.”
“Yn ardaloedd llai Cymraeg Cymru mae angen rhaglen sy’n targedu rhieni er mwyn newid iaith y cartref, ac i wneud hynny bydd angen i rieni gael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith.
“Mae angen mawr hefyd am sefydlu cadwyn o Ganolfannau Cymraeg i roi bywyd cymdeithasol newydd i’r iaith.
“Yn yr ardaloedd Cymraeg mae gan Gymraeg i Oedolion rôl allweddol wrth ddysgu’r iaith i fewnddyfodiaid.
“Mewn cyfnod o wanhad cymunedau Cymraeg, dyma’r union adeg i weithredu’n fentrus i ehangu darpariaeth Cymraeg i Oedolion.”
Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu sefydlu Canolfan Genedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion, ac yn galw am gyllid o £30 miliwn i’r Ganolfan yn lle’r £10 miliwn presennol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi condemnio’r toriadau pellach o bron i £700,000 i Gymraeg i Oedolion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth.
Mewn llythyr i ganolfannau Cymraeg i Oedolion, medd Llywodraeth Cymru bod y toriadau yn dod oherwydd “… nad oes cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi gweithrediad y Strategaeth Iaith ...”
Honnodd y Prif Weinidog ei fod yn buddsoddi £1.6 miliwn yn y Gymraeg mewn datganiad polisi fis diwethaf. Mae’r cwtogiad i Gymraeg i Oedolion yn dod ar ben toriadau o 8% sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Pan gyhoeddodd Carwyn Jones ei fuddsoddiad honedig yn y Gymraeg fis diwethaf, mi geisiodd o adael yr argraff y byddai yna arian ychwanegol sylweddol.
“Er gwaetha’r holl sbin, mae’n debyg nad ydy’r Gymraeg yn ddigon o flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Mae’r toriadau yma’n codi cwestiynau am ddidwylledd y Prif Weinidog.”
Ym mis Chwefror 2013, addawodd y Prif Weinidog y byddai’n cyhoeddi asesiad o effaith holl wariant Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg. Nid oes asesiad wedi ei gyhoeddi eto.
Ym mis Ebrill y llynedd, datgelodd Cymdeithas yr Iaith fanylion cais rhyddid gwybodaeth a ddangosodd fod y swm oedd wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned – allan o gyllideb o bron i £17 miliwn - yn llai na phedair mil o bunnau, sef 0.02% o’r gyllideb.
Ychwanegodd Mr Farrar: “Yr hyn sydd ei angen yw tegwch ariannol i’r Gymraeg.
“Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn derbyn bod angen toriadau – ond hyd yn oed yng nghyd-destun mesurau llymder, mae toriadau o’r math yma’n annheg, gan gofio bod gwariant ar hyrwyddo’r Gymraeg yn llai na 0.15% o gyllideb y Llywodraeth.
“Rydyn ni wedi galw am asesiad o effaith iaith gwariant pob adran o’r Llywodraeth, fel bod modd sicrhau bod buddsoddiad sylweddol a theg yn yr iaith.
“Addawodd y Prif Weinidog hynny dros 16 mis yn ôl, ond ’dan ni heb glywed dim ers hynny.
“Er bod pobl eisiau byw yn Gymraeg, mae’r ewyllys gwleidyddol sydd ei angen er mwyn gwireddu dyhead pobl Cymru ar goll.
“Rydyn ni wedi llunio agenda glir fyddai’n helpu’r Llywodraeth i sicrhau bod pawb, o bob cefndir, yn cael byw yn Gymraeg: fel sicrhau addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol a bil cynllunio er lles y Gymraeg.
“Ond 18 mis ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, mae’r Llywodraeth wedi methu â gweithredu o ddifrif.
“Mae cyfraniad Cymraeg i Oedolion yn bwysig er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw.”