Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Gorffennaf 2014

Cynllun gwerth £5 miliwn i wella canol trefi Cymru

Heddiw, mae Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyhoeddi y bydd £5 miliwn arall ar gael i wella canol trefi Cymru.
 
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu’r rheini sydd ddim eto wedi cael budd o gynlluniau adfywio gwerth £107 miliwn Llywodraeth Cymru – Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Threchu Tlodi. Y nod yw gostwng nifer y safleoedd ac eiddo gwag, segur a diffaith yng nghanol ein trefi.
 
Dywedodd y Gweinidog: “Gyda’r cyllid hwn, gall pob rhan o Gymru wedi buddsoddi a gwelliant.
 
“Mae eiddo gwag a segur yn bla yn ein trefi a’n cymunedau.  Rwyf eisoes wedi datgan yn glir bod taclo’r broblem hon yn flaenoriaeth i mi ac i Lywodraeth Cymru.
 
“Rydym yn eisoes yn gwneud gwaith ardderchog yn bodloni ein targedau uchelgeisiol sef rhoi bywyd newydd i 5,000 eiddo gwag yn ystod tymor y Llywodraeth hon.  Mae ein cynllun Troi Tai’n Gartrefi sy’n werth £20 miliwn yn mynd o nerth i nerth a bydd cynlluniau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Threchu Tlodi yn sicrhau bod eiddo gwag ar ein stryd fawr yn cael eu hadfywio a’u hailddefnyddio.
 
“Mae’r Cynllun Benthyciadau Canol Trefi hwn yn gweithio trwy fenthyciadau  ailgylchadwy ac yn cyd-fynd â’r cynlluniau sydd eisoes ar waith.  Bydd yn helpu i arallgyfeirio safleoedd gwag ac yn annog eu defnyddio at ddibenion mwy cynaliadwy, fel tai, hamdden neu wasanaethau pwysig.”
 
Bydd yr arian yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pedwar awdurdod lleol – £1,250.000 yr un i Geredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Fynwy. 
 
 

Rhannu |