Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Gorffennaf 2014

“Mae’n rhaid i ni weithio a gweithredu fel un sector cyhoeddus”, meddai’r Prif Weinidog

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyflwyno ymateb ei lywodraeth i adroddiad nodedig ar wasanaethau cyhoeddus drwy ddweud bod ei raglen ddiwygio uchelgeisiol yn mynd ymhell y tu hwnt i uno awdurdodau lleol.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog fod y Comisiwn Williams wedi gwneud gwaith ‘difrifol, awdurdodol a gwrthrychol’ yn dangos yr angen am newid ac yn dangos nad oes modd parhau â’r sefyllfa sydd ohoni.

 Pwysleisiodd yn arbennig fod agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau i bawb yng Nghymru. Fe’i disgrifiwyd gan y Prif Weinidog fel rhaglen ddiwygio bellgyrhaeddol ac uchelgeisiol sy’n cwmpasu’r sector cyhoeddus cyfan.
 
Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n hagenda ar gyfer diwygio yn amlinellu newid integredig llwyr fel y gallwn weithio a gweithredu fel un gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys cynigion ar gyfer datblygu cydwasanaethau a gwella gwasanaethau digidol. 
 
“Rydym wedi mynegi ein hawydd i ddatblygu arweinyddiaeth gryfach mewn gwasanaethau lleol, lleihau cymhlethdod, cryfhau rheoli perfformiad, annog arloesi a chodi uchelgeisiau ar draws pob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus.”
 
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod dadl gref dros ddiwygio llywodraeth leol o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei gorfodi i ymyrryd i amddiffyn gwasanaethau nifer o gynghorau dros y blynyddoedd diwethaf.
 
Argymhelliad y Comisiwn oedd y dylid haneru nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i rhwng 10 a 12 er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon a’u gwneud yn gadarn yn ariannol.
 
Dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd uno awdurdodau lleol yn amddiffyn ac yn gwella gwasanaethau lleol. 
 
“Byddant yn galluogi sefydliadau i ymateb i’r heriau cynyddol y maent yn eu hwynebu.
 
“Mae gormod o ymyrryd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, lle bu’n rhaid i gymryd camau pendant er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gyda rhai awdurdodau lleol bach. All hyn ddim parhau.”
 
Ychwanegodd y Prif Weinidog ei bod yn bryd meithrin perthynas newydd rhwng y bobl sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethu a’r rheini sy’n elwa arnynt, gyda chyfraniad llawer mwy gan ddefnyddwyr gwasanaethau mewn cynllunio a darparu.
 
Gan alw ar y Cynulliad i gefnogi’r diwygiadau, dywedodd, “Mae’r mesurau hyn oll yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni er mwyn Cymru, ac amddiffyn a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau eu bod yn gynaliadwy ac yn addas at y dyfodol.”
 

Rhannu |