Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Gorffennaf 2014

Ymwelwyr yn dangos gwir werthfawrogiad o ganolfan goedwigaeth arobryn

Mae canolfan ymwelwyr parc coedwig sydd wedi cipio sawl gwobr, bellach yn adfywio ar ôl cael ei difrodi gan ledaeniad clefyd sy'n effeithio ar goed llarwydd.

Cafodd tua 12,000 o goed brodorol, gan gynnwys y dderwen ddigoes, cerddinen, bedwen, masarnen fach, coeden geirios du, draenen wen a draenen ddu eu hailblannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth.

Maent wedi disodli'r 10 hectar o goed llarwydd a gafodd eu cwympo i helpu i arafu lledaeniad Phytophthora ramorum, clefyd sydd wedi heintio dros 6 miliwn o goed yng Nghymru ers iddo gael ei ddarganfod yn 2010.

Meddai Gareth Owen, Rheolwr y Ganolfan Ymwelwyr ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r safle cyfan wedi gwneud cynnydd anhygoel ers y gwaith ailblannu.

"Rhoddodd y gwaith cwympo gyfle annisgwyl inni greu coedwigoedd gwell, a mwy gwydn ar gyfer y dyfodol drwy ailblannu coed brodorol mwy amrywiol

"Gwnaethom ddechrau ar y gwaith cwympo fis Hydref diwethaf, a'i gwblhau erbyn mis Rhagfyr a gwnaed y gwaith ailblannu ym mis Chwefror.

"Rydym yn fodlon iawn â'r cynnydd hyd yma gan fod y planhigion ar y ddaear, gan gynnwys rhedyn, mieri, gweiriau a llus, eisoes wedi sefydlu'n dda ac mae'r llethrau'n glasu'n hardd."

Er gwaetha'r rhaglen gwympo coed, mae ymwelwyr mwyaf adnabyddus y goedwig – sef ei phoblogaeth o farcutiaid – yn dal i ffynnu, gyda mwy na 150 o adar yn ymddangos yn ystod y sesiynau bwydo dyddiol.

Mae poblogrwydd y barcutiaid ac atyniadau eraill y ganolfan, gan gynnwys llwybrau beicio mynydd a llwybrau cerdded â'u golygfeydd ysblennydd, wedi golygu bod Bwlch Nant yr Arian wedi cipio cyfres o wobrau twristiaeth mawreddog.

Gosododd Tripadvisor, y wefan i dwristiaid, y ganolfan ymysg 20 prif atyniad gorau i ymwelwyr yng Nghymru a'r atyniad gorau yn ardal Aberystwyth, a derbyniodd Gymeradwyaeth Uchel yng Ngwobrau Cyntaf Aber, yn Aberystwyth, yn yr adran 'Atyniad Gorau i Ymwelwyr' ym mis Mai 2014.

Ac yn 2013 roedd yn un o'r atyniadau a ddaeth i'r brig ar gyfer Gwobr Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru.

Erbyn hyn mae pob un o lwybrau beicio mynydd, cerdded a chyfeiriannu'r ganolfan wedi ailagor, ac mae niferoedd yr ymwelwyr yn cynyddu i'w lefel cyn y gwaith cwympo coed, yn dilyn gostyngiad yn ystod gaeaf 2013.

Ychwanegodd Gareth: "Yn ogystal â'n hatyniadau cyfredol, gall ymwelwyr fwynhau ein cuddfan farcutiaid newydd, ardaloedd chwarae rhagorol newydd i blant, cerfluniau pren a wnaed gan ddefnyddio'r coed a gafodd eu cwympo ac, wrth gwrs, y golygfeydd trawiadol o Fynyddoedd Cambria." 

Rhannu |