Mwy o Newyddion
Horizon a Grŵp Llandrillo Menai yn llofnodi cytundeb i baratoi gweithlu’r dyfodol
Mae Pŵer Niwclear Horizon wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai i gefnogi darparu rhaglenni hyfforddiant a sgiliau ar draws Ynys Môn a Gogledd Cymru yn y dyfodol, ac hefyd wedi cyhoeddi cyllideb pellach o £90,000 ar gyfer y cynllun prentisiaeth llwyddianus, Cwmni Prentis Menai.
Mae’r cytundeb gyda Grŵp Llandrillo Menai - Coleg Menai, Coleg Llandrillo a Choleg Meirion-Dwyfor - yn nodi dechrau ymrwymiad ffurfiol rhwng y Grŵp a Horizon i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant i arfogi gweithlu Wylfa Newydd yn y dyfodol â'r sgiliau angenrheidiol.
O dan y cytundeb newydd bydd Horizon yn ymgynghori â Grŵp Llandrillo Menai ynghylch ei ofynion hyfforddiant a sgiliau. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cynlluniau hyfforddiant sgiliau ar y cyd er mwyn datblygu’r gweithlu lleol a rhanbarthol. Bydd hefyd yn braenaru’r tir ar gyfer rhaglenni allgymorth gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Ynys Môn, gan annog myfyrwyr i astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a dilyn cyfleoedd gyrfa neu hyfforddiant yn y diwydiant ynni.
Dywedodd Mark Tippet, Rheolwr Dysgu a Datblygu Horizon: “Mae’r cytundeb hwn yn dangos eto ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd swyddi a busnes a fydd yn cael eu creu gan ein prosiect yn y tymor byr, canolig a hir.
“Rydym yn hynod falch o’r prentisiaid sydd eisoes wedi graddio o Gynllun Prentisiaeth Cwmni Prentis Menai, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n cefnogaeth i alluogi pobl ifanc i wireddu eu dyheadau.”
Ychwanegodd Glyn Jones, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y berthynas rhwng y Grŵp a Horizon. Mae’n dangos bwriad cadarnhaol y naill tuag at y llall wrth i ni symud ymlaen. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos ers peth amser mewn sawl maes gan gynnwys cynllunio rhaglenni cymhleth o hyfforddiant a fydd yn angenrheidiol ar gyfer y datblygiadau mawr arfaethedig yn y sector ynni.
“Rydym nawr wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen i ni ffurfioli ein perthynas er mwyn datgan yn glir beth yw ein cyfrifoldebau a thrwy hynny sicrhau llwyddiant y prosiectau. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn atgyfnerthu ein gallu i gydweithio’n agos ar adeiladu’r ystod eang o sgiliau a fydd yn hanfodol er mwyn llwyddo.
“Fel partneriaid, byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’n cymunedau i sicrhau eu bod yn deall pa gyfleoedd neilltuol fydd ar gael i unigolion, i ysgolion ac i gwmnïau.”
Mae perthynas Horizon gyda Grŵp Llandrillo Menai eisoes wedi’i weld yn ymrwymo £270,000 i’r cynllun prentisiaeth Cwmni Prentis Menai dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r berthynas hefyd wedi arwain at riant gwmni Horizon, Hitachi, yn rhoi benthyg tri pheiriant symud pridd trwm newydd sbon i Ganolfan Hyfforddiant Peiriannau Trwm bwrpasol Coleg Menai, i helpu i sicrhau bod cadwyn gyflenwi leol effeithiol yn barod i gael ei defnyddio ar gyfer y prosiectau seilwaith mawr sy’n cael eu cynnig ar gyfer Ynys Môn dros y blynyddoedd nesaf.
“Fel rhan o’r cynllun hwn, rwyf hefyd yn falch iawn o gyhoeddi buddsoddiad pellach o £90,000 i gynllun Cwmni Prentis Menai ar gyfer y deuddeg mis nesaf – y bedwaredd flwyddyn i ni roi cefnogaeth ariannol i’r prosiect hwn," meddai Mark Tippett. “Byddwn yn parhau i gefnogi’r cynllun cyn lansio ein cynllun prentisiaeth Horizon ein hunain yn ystod y ddwy flynedd nesaf.”
Ychwanegodd Glyn Jones: “Mae hwn yn newyddion gwych i’r Grŵp i glywed bod Horizon yn parhau i cefnogi ein gwaith gyda chynllun Cwmni Prentis Menai, gyda chadarnhâd Horizon o fuddsoddiad £90,000 pellach i’r flwyddyn academaidd nesaf. Mae hwn yn newyddion arbennig i’r prentisiaid ac, wrth edrych i’r dyfodol, bydd yn siwr o gael effaith positif i economi’r rhanbarth.”
Llun: Glyn Jones, Prif Weithredwr, Grŵp Llandrillo Menai yn arwyddo’r cytundeb gyda Richard Tuffill, Prif Swyddog Cyllid Pŵer Niwclear Power