Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Gorffennaf 2014

Amddiffynfeydd llifogydd newydd yn lleihau bygythiad i Ddôl-y-bont

Mae gan breswylwyr Dôl-y-bont yng Ngheredigion well diogelwch rhag llifogydd yn awr, diolch i gynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd sydd o fudd i yn agos i 20 annedd.

Bydd y cynllun newydd, a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, hefyd yn gwella diogelwch Maes Carafanau Mill House gerllaw rhag llifogydd.

Effeithiwyd ar y maes carafanau a llawer o gartrefi’r pentref gan y llifogydd difrifol a achosodd ddifrod eang ledled Ceredigion ym Mehefin 2012.

Mae’r cynllun wedi golygu codi wal llifogydd newydd islaw pont y pentref, a chodi’r arglawdd blaenorol uwchlaw’r bont gan 450mm, ar gyfartaledd.

Rhoddwyd wyneb carreg ar y wal llifogydd newydd, yn unol â gwedd wreiddiol y pentref, a chodwyd ac atgyfnerthwyd y lan uwchlaw er mwyn cynyddu safon yr amddiffyn rhag llifogydd.

Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Perygl Llifogydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae atgofion am lifogydd difäol Mehefin 2012 eto’n fyw ym meddyliau llawer o’r bobl hynny yn Nôl-y-bont yr effeithiwyd ar eu bywydau nhw.

“Ers y llifogydd, rydym wedi cydweithio’n agos â phobl leol er mwyn datblygu cynllun llifogydd cymunedol ar gyfer y pentref, gan amlinellu swyddogaethau i wirfoddolwyr eu hysgwyddo yn ystod llifogydd, i helpu’r pentref i ymateb yn gyflym ac yn effeithlon.

“Rydym hefyd yn gobeithio dechrau gwasanaeth rhybuddion llifogydd newydd ar gyfer Leri yr hydref hwn, a fydd yn rhoi i bobl rybudd ymlaen llaw am lifogydd pan fo lefelau afonydd yn codi’n gyflym.

“Ni allwn atal llifogydd rhag digwydd, ond gobeithio y bydd y cynllun newydd hwn o gymorth mawr o dawelu meddyliau pobl y fro.”

Rhannu |