Mwy o Newyddion
Gobeithio troi Tafwyl yn Ŵyl Benwythnos yng Nghastell Caerdydd
Wrth i Tafwyl lansio'r penwythnos yma (dydd Sadwrn Gorffennaf 12) mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd llwyddiant yr ŵyl flynyddol yn eu caniatáu i'w hymestyn dros benwythnos y flwyddyn nesaf.
Dywed Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis, eu bod yn hyderus y bydd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r diwrnod agoriadol eleni o'r 12,000 y llynedd.
Meddai: "Roedd Tafwyl 2013 yn ŵyl lwyddiannus dros ben gyda chynnydd aruthrol yn nifer yr ymwelwyr.
"Mae'n amlwg bod galw mawr gan Gymry Cymraeg Caerdydd am y math hwn o ddigwyddiad. Mae cymaint o weithgareddau a pherfformiadau yn cael eu gwthio i'r ŵyl agoriadol mae bron yn amhosibl i'w cynnwys mewn un diwrnod.
"Ein cynllun yw cynnal Gŵyl ddeuddydd yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Tafwyl 2015 fydd yn denu Cymry Cymraeg o bob cwr o Gymru i'r brifddinas, yn ogystal â Dysgwyr a siaradwyr di-gymraeg y brifddinas."
Eleni mae Tafwyl wedi creu ap newydd sy’n galluogi ymwelwyr i greu amserlen bersonol er mwyn mwynhau’r ŵyl i gyd. Yn dilyn yr ŵyl rhad-ac-am-ddim dydd Sadwrn bydd wythnos o ddigwyddiadau difyr ar draws y brifddinas.
Mae'r actor Hollywood o Gaerdydd Matthew Rhys yn llysgennad unwaith eto i Tafwyl a'i lais ef sydd i'w glywed fel rhan o animeiddiad newydd i hyrwyddo Tafwyl. Yn ymuno ag ef eleni mae llysgenhadon newydd Tafwyl - y chwaraewr rygbi rhyngwladol a seren y Gleision Rhys Patchell, DJ Radio 1 Huw Stephens a'r gyflwynwraig teledu Alex Jones fydd yn siarad yn y seremoni agoriadol a chymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb yn ystod y dydd.
Un o brif atyniadau Tafwyl yw’r gerddoriaeth ac yn chwarae ar y brif lwyfan eleni mae ystod eang o berfformwyr gan gynnwys; Bryn Fôn, Yr Ods, Ednaf Gremlin, Bob Delyn, Yr Eira, Bandana a Kookamunga. Yn syth o lwyfan ‘BBC Introducing’ yn Glastonbury bydd Kizzy Crawford yn chwarae ar y llwyfan acwstig ynghyd a Al Lewis, Steve Eaves, Gareth Bonello, Plu a Greta Isaac.
Am y tro cyntaf bydd llwyfan y tu allan i furiau'r castell i ddenu pobl y brifddinas ac ymwelwyr i’r ŵyl. Bydd y llwyfan, sydd wedi’i ariannu gan y Cyngor Celfyddydau, yn creu naws gŵyl gyda chymysgedd o gerddoriaeth funk, jazz a gwerin gan berfformwyr sy’n cynnwys Wonderbrass, Cwpwrdd Nansi, band Jazz Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a band drymiau ysgol uwchradd Fitzalan.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys ‘Bake Off’ wedi’i feirniadu gan Beca Lyne-Pirkins (BBC Great British Bake Off), arddangosfeydd a sesiynau blasu bwyd, sesiynau yn y Babell Llenyddiaeth wedi ei threfnu gan Lenyddiaeth Cymru a gweithdai gan Ganolfan y Mileniwm, Theatr y Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd cefnogaeth arbennig a rhaglen fywiog i ddysgwyr yn y Babell Dysgwyr.
Ar y maes chwaraeon mae’r Urdd wedi trefnu nifer o sesiynau chwaraeon gan gynnwys gweithdai Undeb Rygbi Cymru a chyfle i dynnu llun gyda’r ‘UEFA Supercup’. Yn y Babell Ysgolion eleni bydd cyfle i weld pob un o ysgolion cyfrwng Cymraeg y brifddinas yn perfformio. I blant mae sesiynau arbennig drwy gydol y dydd ar draws y maes gan gynnwys celf a chrefft, odli gyda Bardd Plant Cymru, sesiynau cerddorol ac yn arbennig i fabanod bach mae cornel ymlacio Cwtsh Si-lwli.