Mwy o Newyddion
Rhaid i bensiwn newydd Aelodau'r Cynulliad fod yn 'gadarn, yn deg ac yn addas ar gyfer y tymor hir'
MAE Bwrdd Taliadau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi cynigion ymgynghori i ostwng yr hyn y bydd trethdalwyr yn ei gyfrannu at bensiynau Aelodau'r Cynulliad ar ôl etholiad nesaf y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016.
Mae'r newidiadau pensiwn arfaethedig yn unol â newidiadau tebyg sydd wedi digwydd ar draws y sector cyhoeddus.
Yn ôl Sandy Blair, Cadeirydd y Bwrdd: “Nod y Bwrdd Taliadau Annibynnol wrth adolygu pensiynau Aelodau'r Cynulliad yw gwneud trefniadau at y dyfodol sy'n deg o ran cyfanswm y costau a rhannu risg, ac sy'n fforddiadwy i drethdalwyr ac i'r Aelodau.
“Dylai'r trefniadau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad adlewyrchu'r newidiadau sy'n digwydd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ac sy'n effeithio ar bobl Cymru. Gydag amser, bydd newidiadau o'r fath yn arbed arian i drethdalwyr ond bydd yn parhau i sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hethol i'r Cynulliad yn cael darpariaeth briodol ar gyfer eu hymddeoliad.”
Bydd y Bwrdd yn datblygu ei gynllun terfynol yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn ac mae'n annog Aelodau'r Cynulliad, pobl sy'n bwriadu sefyll yn etholiadau'r dyfodol, a rhanddeiliaid eraill i fynegi barn. Bydd y trefniadau pensiwn newydd ar waith o ddechrau'r Cynulliad nesaf, ym mis Mai 2016. Bydd yr holl fuddion a gronnwyd cyn mis Mai 2016 o dan y cynllun presennol yn cael eu diogelu.
Ychwanegodd Mr Blair: "Mae'r Bwrdd Taliadau Annibynnol ar hyn o bryd yn adolygu pob agwedd ar y taliadau a'r cymorth sydd ar gael i'r Aelodau erbyn dechrau'r Pumed Cynulliad. Mae ein gwaith ar bensiynau yn rhan o'r darlun mawr hwnnw.
“Y ddogfen ymgynghori hon yw cam diweddaraf ein hymgynghoriad ar drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol. Mae hwn yn faes cymhleth, ac rydym yn awyddus i ddatblygu cynllun sy'n gadarn, yn deg ac yn addas ar gyfer y dyfodol.”
Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i gwblhau pob agwedd ar dâl Aelodau'r Cynulliad erbyn mis Mai 2015, fel bod y rhai sy'n sefyll etholiad yn gwybod pa dâl y gallant ddisgwyl ei gael yn y Pumed Cynulliad.