Mwy o Newyddion
Gwaith wedi dechrau ar Surf Snowdonia
Heddiw [26 Mehefin] aeth Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, i ymweld â safle Surf Snowdonia wrth i’r gwaith datblygu ddechrau go iawn. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi hefyd bod pecyn cyllid gwerth cyfanswm o £4.15miliwn yn cael ei roi i Conwy Adventure Leisure Ltd tuag at greu Surf Snowdonia – y ganolfan syrffio gyntaf o’r fath yn Ewrop sydd ddim ar lan y môr. Disgwylir cwblhau’r gwaith erbyn dechrau’r haf 2015.
Mae effaith economaidd y prosiect blaenllaw hwn yn cynnwys 100 o swyddi adeiladu dros y cyfnod adeiladu yn ogystal â 60 o swyddi ar y safle unwaith y bydd wedi agor. Bydd y prosiect yn diogelu llawer o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi hefyd.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi ein cymorth i’r atyniad hwn, y disgwylir iddo fod yn eiconig i Gymru. Mae’r prosiect yn cefnogi ein strategaeth ni o greu atyniadau newydd sy’n newid delwedd a’r canfyddiadau am Gymru. Bydd Surf Snowdonia yn ychwanegu cyfleuster unigryw at glwstwr cyffrous o atyniadau o safon byd-eang ym maes twristiaeth gweithgareddau yn y Gogledd a bydd yn gyrru twf drwy ddenu rhagor o ymwelwyr sy’n gwario mwy. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r cwmni wrth iddynt adeiladu’r ganolfan syrffio dros y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Steve Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Conwy Leisure Ltd: “Wrth dorri tir y safle heddiw, rydym yn cyrraedd carreg filltir bwysig i Surf Snowdonia, yn enwedig gan fod Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Dwristiaeth, Edwina Hart, wedi cadarnhau £4.15m o gyllid ychwanegol i’r prosiect hwn, sydd werth miliynau.
“Bydd syrffwyr brwd o bedwar ban byd, yn amateuriaid neu’n broffesiynol, yn heidio i Ddolgarrog cyn bo hir ac mae’r cyhoeddiad hwn am gyllid wedi dod â hyn gam yn nes eto. Bydd Surf Snowdonia yn rhoi hwb enfawr i economi’r Gogledd ac yn cadarnhau unwaith eto pa mor gryf yw enw da’r ardal hon fel prif gyrchfan awyr agored Prydain.”
Mae Llywydd Cymdeithas Syrffio Ryngwladol, Fernando Aguerre, hefyd wedi rhoi cefnogaeth frwd i’r prosiect. Mae’n dweud y bydd Surf Snowdonia’n ganolfan o bwysigrwydd rhyngwladol anferthol ac yn fodel a allai helpu i gael syrffio’n rhan o’r Gemau Olympaidd yn y dyfodol. Bydd y ganolfan yn allweddol ar gyfer denu digwyddiadau o safon byd-eang i Gymru hefyd.
Dywedodd Fernando Aguerre: “Mae’r dechnoleg anhygoel a ddefnyddir yn Surf Snowdonia, yn gwneud hon yn foment hanesyddol a fydd yn trawsnewid y byd syrffio. Ni fydd daearyddiaeth yn cyfyngu ar syrffio mwyach – gellir adeiladu canolfannau ymhell o’r arfordir mewn modd effeithlon a chynaliadwy a byddwn yn gallu denu pobl newydd i syrffio – hyd yn oed os nad ydynt erioed wedi bod yn agos at y môr.”
“Wrth ddatgloi’r potensial hwn, bydd syrffio yn elwa dros y byd i gyd. Gallwn gynnal cystadlaethau syrffio o safon fyd-eang gyda thonnau sydd bob amser yn gyson, pwerus ac ar gael i bawb. Mae’r datblygiad hynod hwn yn golygu y gellir rhagweld syrffio’n dod yn rhan o’r Gemau Olympaidd a digwyddiadau chwaraeon eraill yn y dyfodol. Bydd modd creu tonnau perffaith bob tro, drwy’r amser. Bydd canolfannau fel Surf Snowdonia’n troi’r freuddwyd Olympaidd yn realiti ac yn sicrhau dyfodol disglair i syrffio.
Ychwanegodd Steve Davies; “Mae’r prosiect hwn yn denu diddordeb o bob man ac ar sawl lefel gan gynnwys y Sefydliad Syrffio Rhyngwladol sy’n gweld y potensial Olympaidd. Mewn wythnos pan fo pobl dros y byd yn dathlu Diwrnod Olympaidd, mae’n addas ein bod yn dechrau’r gwaith o adeiladu’r cyfleuster newydd hwn allai ddylanwadu ar Gemau’r dyfodol.”
Yr hen waith alwminiwm yn Nolgarrog yw safle’r ganolfan newydd. Bydd lagŵn syrffio mewndirol gyntaf Ewrop yn cael ei greu yno, a defnyddir technoleg arbennig i greu tonnau hyd at 2m o uchder. Bydd yno bwll hwyl a hamdden hefyd a chanolfan chwarae dan do, adeilad canolog gyda bwyty ger y dŵr, ystafelloedd newid, derbynfa ac ardal manwerthu, safle gwersylla i 100 o bebyll a charafanau, gerddi wedi’u tirlunio a chyfleusterau chwarae awyr agored.
Yn ystod ei hymweliad â’r Gogledd, cafodd y Gweinidog agor Porth y Swnt yn swyddogol. Porth y Swnt yw canolfan ddehongli flaengar newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdaron.
I gael y newyddion diweddaraf am Surf Snowdonia, ewch i’w gwefan newydd Surf Snowdonia website: www.surfsnowdonia.co.uk neu dilynwch y prosiect ar Twitter @surfsnowdonia neu Facebook- Surf Snowdonia.