Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mehefin 2014

Cyngerdd mawreddog cyn cychwyn ar y cerdded

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae'r tenor adnabyddus, Rhys Meirion, yn trefnu taith gerdded anhygoel o un pen o'r wlad i'r llall er mwyn codi arian at Ambiwlans Awyr Cymru. Eleni bydd Rhys a'i griw yn cerdded o Barc Eirias ym Mae Colwyn yr holl ffordd i Gastell Caerdydd, dros 200 o filltiroedd ar hyd gororau dwyrain Cymru.

Mae'r cwbl yn cychwyn gyda chyngerdd arbennig a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar nos Wener, 4 Gorffennaf, a chewch fwynhau awr a hanner o adloniant Cyngerdd Cerddwn Ymlaen y noson ganlynol, nos Sadwrn, 5 Gorffennaf, ar S4C.

"Y llynedd roedd y cyngerdd ar ddiwedd y daith ac roedd hynny yn ffordd dda o ddathlu ein bod ni wedi gorffen ac i godi mwy o bres," meddai'r comedïwr a'r cyflwynydd Tudur Owen fydd yn cyflwyno Cyngerdd Cerddwn Ymlaen ar y noson, ac ar S4C.

"Ond wrth i ni gerdded y llynedd roedden ni'n cyfarfod pobl oedd erioed wedi clywed am Cerddwn Ymlaen, felly gobeithio eleni bydd cynnal y cyngerdd ar ddechrau'r wythnos yn codi ymwybyddiaeth, ac yn golygu bod mwy o bobl wedi clywed am y daith ac yn barod i roi arian at yr achos yn ystod yr wythnos."

Ymhlith yr artistiaid sy'n perfformio ar y noson mae Rhys Meirion ei hun, y gantores Sioned Terry, seren y West End ac un o sêr y gyfres cariad@iaith John Owen-Jones, y gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur, y ddeuawd Piantel sef Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw, y gantores ifanc Lucie Jones, Côr Rhuthun a Chôr Ysgol Pen Barras.

Yn ogystal â chyflwyno'r cyngerdd mae Tudur hefyd yn rhan o'r criw fydd yn cerdded y daith gyda Rhys eleni, er nad oedd yn meddwl y byddai'n gwneud hynny fyth eto ar ôl taith y llynedd. Mae nifer o wynebau adnabyddus yn ymuno â'r daith gan gynnwys hyfforddwr blaenwyr tîm rygbi Cymru Robin McBryde a'r gantores Lucie Jones.

"Wir yr, roedd o'n un o'r pethau anodda' dwi erioed wedi'i wneud," meddai Tudur. "Roedd o'n erchyll. Ar y pryd doeddwn i byth yn meddwl y baswn i'n wneud o eto, ond dyma fi, wedi cytuno. Mae Rhys Meirion yn ddyn llawn perswâd!"

Er nad ydy o'n edrych ymlaen rhyw lawer at y cerdded, mae Tudur yn saff y bydd o'n mwynhau Cyngerdd Cerddwn Ymlaen. "Dwi'n edrych ymlaen at glywed pawb, Rhys Meirion yn enwedig. 'Swn i ddim yn dweud at ei wyneb o, ond mae o'n dal i fedru gyrru ias lawr fy nghefn wrth ganu, ac mae o mor angerddol at yr achos felly mae hynny yn siŵr o ychwanegu at y perfformiad. Mae'r gantores Sioned Terry wedi cyfansoddi cân arbennig ar gyfer yr achos eleni hefyd, felly mi fydd honno'n gân bwysig iawn ar y noson. Mi fydd 'na awyrgylch anhygoel yno dwi'n siŵr."

Cyngerdd Cerddwn Ymlaen
Nos Sadwrn 5 Gorffennaf, 7.30 a'r diweddaraf o'r daith Llun-Gwener, 7.00 ar Heno
Gwefan: s4c.co.uk Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Rondo-Telesgop ar gyfer S4C

Rhannu |