Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mehefin 2014

Trawsnewid gofal cymdeithasol i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn

Bydd meini prawf cenedlaethol newydd i weld pwy sy’n gymwys am ofal cymdeithasol yn cymryd lle’r drefn bresennol lle mae pobl yn cael gwasanaethau dim ond ar ôl cyrraedd trothwy, yn hytrach na phan nad ydynt yn gallu ymdrin â’u hanghenion eu hunain, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas heddiw.
 
Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fel rhan o’r trawsnewidiad mwyaf mewn deddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru ers 60 mlynedd pan ddaw cyfraith newydd i rym yn 2016. Mae’n golygu y bydd pobl yn gymwys i gael gofal cymdeithasol pan na allant ymdrin â’u hanghenion llesiant eu hunain heb gynllun gofal a chymorth.
 
Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod llesiant yn hawl ac yn gyfrifoldeb i bawb. Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i hybu llesiant a threfniadau newydd ar gyfer asesu a chymhwyster pan fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2016.
 
Hefyd heddiw cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y fframwaith canlyniadau cenedlaethol, a fydd yn helpu i gyflwyno gofal sy’n canolbwyntio ar y person ac yn gosod y sylfaen ar gyfer y model cymhwyster.
 
Bydd y meini prawf cymhwyster cenedlaethol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yn cymryd lle’r meini prawf presennol sy’n seiliedig ar ddiffiniadau o lefelau isel, cymedrol, sylweddol a chritigol.
 
Bydd y model newydd yn seilio penderfyniadau ar drafodaeth am “yr hyn sy’n bwysig” a’r hyn y mae’r person am allu gwneud mewn bywyd ac a oes angen gofal a chymorth arno i gyflawni hyn.
 
Bydd y meini prawf cymhwyster newydd:

* Yn symud tuag at atal anghenion yn gwaethygu a gwneud y gorau o gyfleoedd i ymyrryd yn gynt i gynnig cymorth cymesur i bobl o fan bodloni neu leihau angen.

* Yn helpu i ganolbwyntio ar lesiant a chryfderau pobl, ac adeiladu ar eu rhwydweithiau a chysylltiadau teuluol a chymunedol.

* Yn helpu pobl i fod wrth wraidd penderfyniadau am eu llesiant a chadw rheolaeth ar eu bywydau.

* Yn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.

 Bydd y system newydd yn canolbwyntio ar atal problemau, tryloywder ac adeiladu ar gryfderau pobl i’w galluogi i gael rheolaeth ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, eu hanghenion a’u dyheadau. Mae asesu pwy sy’n gymwys fel hyn hefyd yn cydnabod y bydd angen rheoli a darparu gofal a chymorth ar ran rhai pobl. Bydd hefyd yn sicrhau bod y rheini sydd fwyaf angen cymorth a gofal cymdeithasol yn ei gael. 
 
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod araith allweddol i’r Gynhadledd Gwasanaethau Cymdeithasol Genedlaethol flynyddol yn Llandudno.
 
Dywedodd Gwenda Thomas: “Pobl sydd yn y safle gorau i benderfynu ar y canlyniadau y maen nhw eisiau eu cyflawni, felly mae’n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i adeiladu ar gryfderau, galluoedd a chymunedau pobl i’w galluogi i gadw annibyniaeth briodol gyda lefel briodol o ofal a chymorth.
 
“Bydd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yn cynnig mwy o dryloywder ynghylch a yw gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gwella canlyniadau llesiant, gan ddefnyddio dangosyddion canlyniadau cyson a chymaradwy.
 
“Rwy’ eisiau dechrau asesu pwy sy’n gymwys drwy gynnal sgwrs i ystyried amgylchiadau person yn eu cyfanrwydd. O dan y model hwn, bydd ystyriaeth ynghylch a yw person yn gymwys yn cychwyn ar yr adeg pan na all yr unigolyn gyflawni ei ganlyniadau ac ymdrin â’i anghenion gofal a chymorth heb gynllun gofal a chymorth. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.”
 
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Rwy’n argyhoeddedig y bydd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol a’r model cymhwyster, gyda’i gilydd, yn canolbwyntio ar ddinasyddion mewn ffordd sy’n annog awdurdodau lleol i hyrwyddo ymyrraeth gynnar ac atal problemau. Mae’n gwneud llais y dinesydd yn ganolog i ddarparu gwasanaethau, gan sicrhau bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu bywydau a’r gofal y maent yn ei dderbyn.
 
“Y ffordd o wneud hyn yn iawn yw drwy wrando ar bobl sy’n defnyddio gwasanaethau nawr – ac yn wir a fydd yn defnyddio gwasanaethau yn y dyfodol.”

Rhannu |