Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mehefin 2014

Plaid Cymru yn cefnogi gweithredu yn erbyn osgoi talu trethi

Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi croesawu symudiadau ledled Ewrop i weithredu yn erbyn osgoi talu trethi gan gwmnïau rhyngwladol sydd yn defnyddio eu presenoldeb amlwladol i osgoi talu’r dreth lawn mewn gwledydd lle maent yn gweithredu, gan gynnwys y DG.

Cytunodd Cyngor Economaidd a Chyllid yr Undeb Ewropeaidd (Ecofin) ar reoliadau newydd i roi diwedd ar ‘ddim trethu dwbl’, proses lle mae cwmnïau amlwladol yn artiffisial yn symud elw o un wlad i’r llall er mwyn osgoi talu treth.

Dywedodd Jill Evans ASE fod y ffaith fod cwmniau amlwladol yn osgoi talu treth yn golygu bod yn rhaid i fusnesau a theuluoedd Cymru wneud iawn am y diffyg neu weld toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion.

Hyd yma, gwrthododd yr Undeb Ewropeaidd enwi a chywilyddio cwmniau sy’n dilyn yr arferion hyn, ond mae achosion blaenorol gyda nifer fechan o fanciau yn Seland Newydd a’r Unol Daleithiau wedi golygu y llwyddwyd i adennill gwerth biliynau o ddoleri o dreth.

Dywedodd ASE Plaid Cymru Jill Evans: “Yr ydym yn croesawu’r ymdrechion  newydd hyn i fod yn llym yn erbyn cwmniau amlwladol sydd yn camddefnyddio’r system dreth ac yn gadael busnesau llai a theuluoedd Cymru yn talu mwy na’u cyfran deg o dreth.

“Mae’r toriadau sy’n cael eu gorfodi ar Gymru a gweddill Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd y chwalfa ariannol yn ein hatgoffa, pan fo banciau a busnesau mawr yn mynd i;’r wal, y gweddill ohonom sy’n talu.

“Pan nad yw cwmniau amlwladol yn talu trethi, mae’n golygu dyled genedlaethol fwy, a llai o arian i wario ar ein hanfodion, fel y GIG, ysgolion a hel sbwriel.

“Yr ydym oll ar ein colled, ar wahân  i’r cwmniau eu hunain sydd yn gwneud mwy o arian. Mae hyn yn annheg ac yn annerbyniol.

“Yn achos y rheolau ‘dim trethu dwbl’ fel y’u gelwir, mae cwmniau amlwladol yn gwneud defnydd annheg o’u maint i osgoi talu’r dreth iawn yn y gwledydd lle maent yn gweithredu, trwy ddefnyddio set o reolau treth yn un wlad yn erbyn rheolau treth gwlad arall.

“Cymerwyd y camddefnydd hwn o dreth o ddifrif am y tro cyntaf pan godwyd ef mewn adroddiad gan yr OECD yn 2012 a chafwyd ymgynghoriad gan yr UE yn nes ymlaen y flwyddyn honno. Dywedasant fod corfforaethau mawr wedi bod yn cymryd arnynt symud eu helw i osgoi talu’r dreth gywir.

“Nawr rydym yn gobeithio y bydd pob llywodraeth yn yr UE yn cymryd y camau hyn i fod yn llym yn erbyn camddefnyddio trethi rhyngwladol.

“Mae Plaid Cymru eisiau gweld cystadleuaeth deg mewn trethi rhwng gwledydd, ar sail dewis y pleidleiswyr o’r polisïau treth maent hwy am weld. Yr ydym yn erbyn cwmniau amlwladol yn camddefnyddio’r system er eu lles eu hunain. Dyna pam fod angen cytundeb ledled Ewrop - a da o beth fyddai cael cytundeb byd-eang ar osgoi treth gorfforaeth.

“Dim ond megis dechrau yw’r camau hyn sy’n cael eu trafod gan Ewrop, er hynny. Rhaid i ni hefyd wahardd hafanau treth sy’n gadael i unigolion a chwmnïau guddio elw ac osgoi talu’n ôl i gymdeithasau sy’n eu gwneud yn gyfoethog, cyflwyno adrodd fesul gwlad i gynyddu tryloywder a chyflwyno rheolau gwrth-osgoi er mwyn rhoi terfyn ar gamddefnyddio’r system drethi.”

Rhannu |