Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Mehefin 2014

Bwlio yn destun pryder o hyd yn ysgolion Cymru

Mae gormod o ddisgyblion yn dioddef yn sgil bwlio yn ystod eu bywydau ysgol, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn.  Mae gan ddarparwyr addysg gyfrifoldeb i fynd i’r afael â bwlio o bob math o dan Ddeddf Addysg 2002, ac eto mae’r ffyrdd y mae ysgolion yn delio â bwlio yn amrywio’n eang.

Canfu adroddiad Estyn, ‘Gweithredu ar fwlio’, nad yw hyd yn oed ysgolion sydd â strategaethau da i fynd i’r afael â bwlio yn meddu ar ddealltwriaeth gyffredin o ba mor bwysig yw hi i ganolbwyntio ar grwpiau o ddisgyblion sy’n wynebu risg uwch na’r cyffredin o gael eu bwlio, fel disgyblion hoyw, lesbiaidd a thrawsrywiol, disgyblion ag anabledd a disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol.

Ychydig iawn o ysgolion sy’n ymgynghori â grwpiau o ddisgyblion i gael darlun go iawn o raddau a natur bwlio yn yr ysgol.  Mae’r adroddiad yn archwilio pa mor effeithiol y mae ysgolion yn gweithredu i fynd i’r afael â phob achos o fwlio.

Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd, “Mae bwlio yn difetha bywydau gormod o ddisgyblion.  Dylai ysgolion fod yn lleoedd y mae pob disgybl yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu dysgu ynddyn nhw.  Mae bwlio nid yn unig yn effeithio ar blentyn yn emosiynol ac yn seicolegol ond gall arwain at bresenoldeb gwael a thangyflawni.

“Mae ein hadroddiad yn amlinellu gwendidau cyffredin ac yn darparu rhestr wirio gwrth-fwlio i ysgolion ei defnyddio i weld a ydyn nhw ar y llwybr cywir.

“Dylai ysgolion ddarparu hyfforddiant i staff ar sut i nodi, atal a rheoli bwlio er mwyn iddyn nhw allu cael gwared ar yr ymddygiad hwn o’n hystafelloedd dosbarth.  Rwy’n annog pob athro i sylwi ar yr argymhellion yn yr adroddiad a helpu i wneud yn siwr bod pob ysgol yn sefydlu ethos lle mae plant yn deall bod ganddyn nhw hawl i fod yn ddiogel.”

Canfu arolygwyr nad yw digon o ysgolion yn cadw cofnod penodol o achosion o fwlio ac nad ydynt yn nodi patrymau o ymddygiad a allai lywio cynllunio gwrth-fwlio.  Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, mae’r cynnydd mewn bwlio seiber yn destun pryder ac mae ysgolion yn gweld ei natur ddienw yn anodd i’w rheoli. 

Serch hynny, mae mwyafrif y disgyblion yn gwybod sut i roi gwybod am fwlio.  Mae’r ysgolion gorau yn defnyddio dull rhagweithiol i atal bwlio.  Mae Ysgol Uwchradd Crucywel ym Mhowys, wedi creu amgylchedd mwy goddefgar trwy sicrhau bod materion amrywiaeth a chydraddoldeb yn cael eu harchwilio yn y cwricwlwm.  Mae gan yr ysgol swyddog cymorth myfyrwyr hefyd sy’n darparu cwnsela ac yn cynghori staff ar faterion fel bwlio seiber. 

Mae astudiaethau achos arfer orau yn yr adroddiad yn archwilio strategaethau i fynd i’r afael â bwlio hefyd, sy’n cynnwys trefnu bod cymorth effeithiol ar gael i ddisgyblion ar amseroedd anstrwythuredig yn ystod y dydd.  Mae ysgolion da yn darparu gwasanaethau cwnsela hefyd ac yn defnyddio asiantaethau allanol i gynorthwyo disgyblion sy’n dioddef bwlio.

Mae ‘Gweithredu ar fwlio’ yn cynnwys cyfres o argymhellion i ysgolion ac awdurdodau lleol.  Dylai ysgolion sicrhau bod staff yn gwybod sut i ddelio ag achosion o fwlio a’u cofnodi a gwneud yn siwr eu bod yn gallu mynd i’r afael â’r mathau gwahanol o fwlio.  Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddarparu hyfforddiant a chymorth ar gyfer staff a llywodraethwyr ysgol.

Rhannu |