Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mehefin 2014

Cyhoeddi rhestr fer gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Neithiwr, cyhoeddwyd y rhestr fer gyntaf ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, a fydd yn cael ei chyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ymhen mis a hanner.

Bwriad y wobr hon yw rhoi sylw cymwys i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio neu’i ryddhau yn ystod y cyfnod o 1 Mawrth 2013 hyd at 28 Chwefror eleni.

Dros y misoedd diwethaf mae rheithgor o unigolion sy’n ymwneud gyda’r diwydiant cerdd yma yng Nghymru wedi bod yn trafod cynnyrch y flwyddyn, ac mae’r rhestr a gyhoeddir eleni’n gymysgedd eclectig o’r hyn a aeth â’u bryd yn ystod y drafodaeth a’r misoedd diwethaf.

Y rhestr fer yw:

·         Alaw – Melody

·         Bromas - Byr Dymor (Rasp)

·         Candelas

·         DnA - Adnabod (Fflach Tradd)

·         Gildas - Sgwennu Stori (Sbrigyn Ymborth)

·         Gwenan Gibbard - Cerdd Dannau (Sain)

·         Llwybr Llaethog - Dub Cymraeg (Neud Nid Deud)

·         Plu (Sbrigyn Ymborth)

·         The Gentle Good - Y Bardd Anfarwol (Bubblewrap Records)

·         Yr Ods - Llithro (Copa)

Wrth gyhoeddi’r rhestr dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan, “Datblygwyd y syniad o Wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan fod yr Eisteddfod yn awyddus i roi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi’i recordio neu’i chreu’n ddiweddar. 

“Mae nifer o wahanol ddisgyblaethau’n cael eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod, ac mae gwobrau’n bodoli ar gyfer mathau arbennig o gerddoriaeth, ond ein bwriad ni yw dathlu pob math o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg ar hyn o bryd.

“Bu’r drafodaeth rhwng y rheithgor gwreiddiol yn hynod ddiddorol gyda nifer fawr o albymau o bob math yn cael eu trafod, gan gwmpasu pob math o steil a genre cerddorol, a chredaf bod y rhestr fer a ryddheir heno yn adlewyrchu’r drafodaeth hon. 

“Yn dilyn wythnosau o drafod, cafodd y rheithgor gyfle i ddewis eu pum hoff albwm o’r cyfnod, yna cafodd y pleidleisiau hyn eu coladu er mwyn creu’r rhestr hon.  Y cam nesaf fydd y beirniadu a bydd hyn yn digwydd ar y Maes yn ystod yr Eisteddfod ei hun, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan.

“Diolch i bawb a fu’n rhan o’r drafodaeth eleni.  Rwy’n credu bod yr amrywiaeth ar y rhestr yn dangos bod lle i wobr fel hyn, gyda nifer fawr o albymau wedi cydio yn nychymyg y rheithgor. Mae’n anodd meddwl am unrhyw wobr arall lle y byddai cerddoriaeth ‘dub’ ar yr un rhestr fer ag albwm cerdd dant!”

Cyflwynir Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yng Nghaffi Maes B ar y Maes, nos Iau 7 Awst.  Bydd yr enillydd yn derbyn tlws wedi’i gomisiynu’r arbennig ar gyfer eleni.

Ceir rhestr o’r rheithgor ar wefan yr Eisteddfod, a bydd manylion y beirniaid yn cael eu rhyddhau’n fuan.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar y Meysydd Gwyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli o 1-9 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk

Llun: Mae albwm Yr Ods ar y rhestr fer

Rhannu |