Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mehefin 2014

“Gwasanaeth Iechyd Cymru yn trin mwy o bobl nag erioed” – Mark Drakeford

Mae mwy o bobl yn cael eu trin gan Wasanaeth Iechyd Cymru nag ar unrhyw adeg ers ei greu, meddai’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford heddiw.
 
Mae cynnydd graddol wedi bod yn y galw am wasanaethau’r GIG ers datganoli, ond mae’r ffigurau’n dangos bod pobl yn cael eu trin yn gynt ac yn byw’n hwy diolch i’r gofal y maent yn ei gael drwy’r GIG yng Nghymru.
 
Wrth siarad cyn dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe, dywedodd y Gweinidog fod y GIG yr etifeddodd Llywodraeth Cymru ym 1999 mewn sefyllfa lle’r oedd yn rhaid i bobl aros am gyfnodau hir am driniaeth. Ym 1999, roedd mwy na 2,500 o bobl yn aros am dros flwyddyn a hanner am apwyntiad fel cleifion allanol. Heddiw, nid oes unrhyw un yn aros am 18 mis.
 
Ers hynny, mae 93% yn llai o gleifion yn aros mwy na 52 wythnos o gael eu hatgyfeirio’n wreiddiol gan eu meddyg teulu am driniaeth (1999-00 – 6,300; Ebrill 2014 – llai na 1,000).
 
Y cyfnod aros canolrifol (safonol) ar gyfer triniaeth ddiwedd mis Ebrill 2014 yw 10 wythnos yn unig. Mae hyn yn golygu bod hanner y cleifion a gafodd eu rhoi ar restr aros adeg y Pasg eleni yn cael eu triniaeth erbyn diwedd mis Mehefin. Yn y cyfamser, pedair wythnos yw’r cyfnod aros ar gyfartaledd ar gyfer profion diagnostig.
 
Mae’r galw am wasanaethau’r GIG wedi codi’n sylweddol ers 1999:

* Ers 1999-00, mae 650,000 yn fwy o gleifion yn cael eu gweld mewn lleoliadau cleifion allanol bob blwyddyn (1999-00 - 694,000 yn fwy o apwyntiadau cleifion allanol newydd a 2.7 miliwn o apwyntiadau dilynol; 2011-12 - 938,000 o apwyntiadau cleifion allanol newydd dan arweiniad ymgynghorydd a 3.1 miliwn o apwyntiadau dilynol);

* Cynnydd o fwy nag 20% yn nifer y cleifion mewnol/cleifion allanol y mae GIG Cymru yn eu gweld (2000-01 – gwelwyd 275,000 o gleifion mewnol a chleifion allanol dewisol a chyfanswm o 586,000 o gleifion mewnol a chleifion allanol. Yn 2011-12 – gwelwyd 362,000 o gleifion mewnol a chleifion allanol dewisol a chyfanswm o 723,000 o gleifion mewnol a chleifion allanol);

* Ers 1999, bu cynnydd o 16.8% mewn derbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Caiff bron miliwn o bobl eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys bobl blwyddyn, sef mwy nag 80,000 o gleifion bob mis. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu gweld o fewn pedair awr, gyda hanner yn cael eu gweld mewn llai na dwy awr;

*Mae nifer y cleifion â chanser sy’n cael eu hatgyfeirio ar gyfer triniaeth wedi treblu rhwng 2006 a 2014, o oddeutu 2,000 y mis i fwy na 6,000. Mae gwelliant sylweddol wedi bod hefyd yn y perfformiad yn erbyn y targedau amseroedd aros canser o 31 diwrnod a 62 diwrnod – ym mis Mehefin 2006, 70% oedd y perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod a 90% ar gyfer y targed 31 diwrnod; ym mis Ebrill 2014, 89.7% a 98.7% oedd y perfformiad yn y drefn honno.

 
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos pobl yn fodlon iawn â’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu derbyn. Dywedodd naw o bob deg - 92% - eu bod yn fodlon iawn gyda’r gofal gan eu meddyg teulu lleol yn ystod eu hymweliad diwethaf. Yn yr un modd, roedd 91% o bobl yn fodlon gyda’r gofal a gawsant yn eu hapwyntiad diwethaf mewn ysbyty GIG.
 
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Byddwn yn dathlu 15 mlynedd o ddatganoli mewn ychydig wythnosau. Mae Gwasanaeth Iechyd Cymru yn gwneud yn well nawr nag ym 1999; mae mwy o bobl yn cael eu gweld bob dydd; mae mwy o bobl yn byw’n hwy diolch i’r gofal y maent yn ei dderbyn. Mae’n gwasanaeth iechyd yn gwneud gwaith rhagorol i gynnig safonau gofal rhagorol, sydd am ddim pan fydd ei angen.
 
“Dyw perfformiad mewn rhai meysydd ddim cystal ag y byddem yn ei hoffi o hyd, ond mae pethau’n gwella. Rwy’n benderfynol o sicrhau bod perfformiad yn parhau i wella ar draws y Gwasanaeth Iechyd.
 
“Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu mesurau a dangosyddion canlyniadau sy’n llawer mwy ystyrlon o ran canlyniadau a budd clinigol i gleifion yn hytrach na chanolbwyntio ar brydlondeb yn unig.”
 
Ychwanegodd y Gweinidog: “Mae adroddiad Nuffield yn cydnabod bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn wynebu heriau nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys costau cynyddol, cynnydd mewn galw, poblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef cyflyrau cronig – yr un heriau ag y mae pob system gofal iechyd yn y byd yn eu hwynebu yn yr oes hon o galedi.
 
“Ond mae hefyd yn dangos bod y Gwasanaeth Iechyd wedi ymateb i hyn drwy ystod o fesurau gan gynnwys gwelliannau mewn effeithlonrwydd a chynhyrchiant, a lleihau’r cyfnod y mae pobl yn aros yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty.
 
“Ein nod nawr yw sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn cynnig triniaeth effeithiol, a bod ein dinasyddion a’n clinigwyr yn cael eu cefnogi i sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau posibl ledled Cymru.”

Rhannu |