Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mehefin 2014

£650,000 i wella cyfle pobl yng Nghymru i gael therapïau seicolegol

Heddiw, fydd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi hwb ariannol o £650,000 i wella'r mynediad at therapïau seicolegol i bobl â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru.
 
Bydd y cyllid hwn yn helpu i ddarparu therapïau seicolegol - fel therapi gwybyddol ymddygiadol ac ymwybyddiaeth ofalgar - i bobl o bob oed. Bydd hefyd yn cynnwys therapïau seicolegol i gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma. 
 
Bydd y buddsoddiad hwn, sy'n cael ei rannu gan y byrddau iechyd, yn datblygu gwaith sydd eisoes wedi'i ddechrau i hyfforddi staff y GIG i wella'u sgiliau a'u cymwyseddau, er mwyn iddynt ddarparu therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gleifion yng Nghymru.
 
Yn ôl yr ymchwil, mae ymyriadau therapïau teulu yn gallu lleihau'r perygl o ail bwl o salwch ar gyfer pobl â seicosis, ac mae therapi ymwybyddiaeth ofalgar yn gallu lleihau'r perygl o ail bwl o iselder.
 
Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad hwn am y cyllid mewn cynhadledd yng Nghaerdydd. Roedd y Gynhadledd wedi'i threfnu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hybu mwy o ddealltwriaeth am yr hyn y mae ymyriadau seicolegol yn gallu ei wneud i wella effeithlonrwydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
 
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Yng Nghymru, rydyn ni'n anelu at gael gweithlu sy'n meddwl am faterion seicolegol ac sy'n deall ac yn cefnogi pobl i reoli eu hiechyd yn well. Mae hynny'n golygu bod angen ffordd o weithio sy'n ymdrin ag agweddau corfforol, cymdeithasol a seicolegol ar iechyd unigolyn.
 
"Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ein strategaeth iechyd meddwl a lles sy'n torri tir newydd yn rhoi sylw i werth cynnig y cyfle i gael amrywiaeth o ymyriadau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
 
“Rhaid inni sicrhau bod gan gleifion ddewis gwirioneddol ynglŷn â'r holl opsiynau sydd ar gael o ran triniaethau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Bydd sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r gefnogaeth i reoli eu cyflwr yn helpu i atal ail bwl o salwch, a bydd hefyd yn lleihau'r angen am ymyriadau costus yn y dyfodol.
 
“Byddai hynny'n well i bobl â salwch meddwl, a dyna'r ffordd ddarbodus ymlaen ar gyfer y GIG, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o gynildeb ariannol. ”
 
Dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod ei deddfwriaeth iechyd meddwl arloesol - Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 - yn llwyddo i fod yn sail i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. 
 
Mae mwy na 30,000 o bobl wedi'u hasesu gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd nifer o'r rhain wedi derbyn therapïau seicolegol.
 
Ychwanegodd yr Athro Drakeford: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu nifer y therapïau seicolegol a thriniaethau siarad eraill sydd ar gael, pan fo'r rhain yn briodol i'r unigolyn, ac i sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael mor agos ag sy'n bosibl at gartrefi pobl. "
 

Rhannu |