Mwy o Newyddion
Gweinidog yn annog gweithwyr i feicio i’r gwaith
Wrth iddo gyrraedd cyfarfod wythnosol y Cabinet ar gefn beic yr wythnos yma, roedd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths AC, yn awyddus i annog gweithwyr i ddefnyddio Wythnos Genedlaethol y Beic i ddechrau beicio i’r gwaith.
Mae Wythnos y Beic, 14 – 22 Mehefin, yn ddigwyddiad blynyddol ar gyfer hyrwyddo beicio drwy dynnu sylw pobl at ba mor hawdd yw defnyddio beic fel rhan o fywyd bob dydd a hefyd at y manteision i iechyd a’r amgylchedd o wneud hynny. Nod yr wythnos yw annog pobl i roi cynnig ar feicio, naill ai am hwyl neu i wneud teithiau byr.
Prif nod Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a fydd yn dod i rym yn nes ymlaen yr haf hwn, yw ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel cerdded a beicio wrth wneud teithiau byr. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu llwybrau addas er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio.
Dywedodd y Gweinidog, sydd ei hunan yn feiciwr brwd: "Dw i’n awyddus iawn i weld pobl yng Nghymru yn cerdded neu’n beicio fel rhan o fywyd bob dydd, ac Wythnos y Beic yw’r cyfle perffaith iddyn nhw roi cynnig ar feicio i’r gwaith neu i’r ysgol.
"Drwy berswadio mwy o bobl i gerdded neu i feicio wrth fynd ar deithiau byr, yn lle defnyddio’r car, gallwn wella iechyd y genedl a’r amgylchedd, lleihau’r tagfeydd traffig, a chryfhau ein cymunedau. Mae’r Ddeddf Teithio Llesol yn gyfle gwych inni wneud Cymru’n genedl sy’n beicio ac yn cerdded mwy."
Gan ategu geiriau’r Gweinidog, dywedodd Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru: "Drwy feicio i’r gwaith, gallwch osgoi tagfeydd traffig, arbed arian a dechrau ar eich diwrnod mewn hwyliau da. Mae Wythnos y Beic yn gyfle gwych i gael gwared ar y llwch sydd wedi hel ar y beic yn y sied, a rhoi cynnig ar feicio i’r gwaith. I gael hyd i lwybr i ffwrdd o’r prif ffyrdd a’r traffig trwm, chwiliwch am lwybrau ar gyfer eich taith ymlaen llaw, gan ddewis rhai nad ydyn nhw’n rhan o ffordd brysur, a dewiswch strydoedd cefn tawel os yn bosibl."