Mwy o Newyddion
Ffigyrau am brofion diagnostig yn dangos methiant Llywodraeth Cymru
Mae Plaid Cymru wedi amlygu ffigyrau sy’n dangos fod y Gig yng Nghymru ymhell y tu ôl i’r Alban a Lloegr o ran perfformiad ar brofion diagnostig. Dengys ffigyrau a gasglwyd ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Blaid Cymru fod cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy o lawer am y profion a’r sganiau angenrheidiol i adnabod salwch o gymharu â chenhedloedd eraill y DG.
Mae nifer y rhai sydd yn aros am brofion diagnostig yn sylweddol uwch yng Nghymru nac yn Lloegr a’r Alban. Er enghraifft, 48.6% yw nifer y bobl sy’n disgwyl mwy na chwe wythnos am sganiau MRI yng Nghymru, o gymharu â 1.2% yn Lloegr a 2.9% yn yr Alban.
Yr wythnos ddiwethaf, mynegodd Ysgrifennydd Iechyd cysgodol Llafur yn Lloegr bryder fod nifer y cleifion yn aros dros chwe wythnos am brofion canser yn Lloegr wedi dyblu i 2%. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n aros dros chwe wythnos am brofion tebyg fel Colonoscopy a Cystoscopy yng Nghymru dros 50% (52% a 54%)
Bydd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones heddiw yn galw ar Weinidog Iechyd Cymru i drin amseroedd aros fel mater o flaenoriaeth er lles teuluoedd pryderus.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Mae’r ffigyrau yn datgelu gwahaniaeth rhyfeddol yn yr amser y gall claf ddisgwyl aros yng Nghymru o gymharu â’r Alban a Lloegr am brofion sylfaenol, a dylai fod yn fater o flaenoriaeth i’r llywodraeth gau’r bwlch hwn a sicrhau bod cynifer o gleifion ag sydd modd yn cael eu gweld o fewn yr amser targed.
“Sganiau a phrofion sylfaenol yw’r rhain all ddarganfod salwch a all fod yn beryglus i einioes. Er enghraifft, mae colonosgopi yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod canser y coluddyn.
“Dengys yr holl dystiolaeth fod diagnosis cynnar yn cyfrannu at well cyfraddau goroesi, felly mae’n hanfodol i feddygon allu darganfod salwch cyn gynted ag y bo modd.
“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar esiamplau o arferion gorau i fynd i’r afael â’r broblem hon, megis y systemau rheoli perfformiad a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus yn yr Alban i leihau amseroedd aros.”