Mwy o Newyddion
Rhyfeddod beicio – beth bynnag fo’ch gallu
Bydd y digwyddiad beicio cynyddol boblogaidd, Etape Eryri, a gefnogir gan Chain Reaction Cycles, yn cynnig nifer o feiciau addasol er mwyn helpu i wella cyfranogiad yn nigwyddiad beicio unigryw eleni.
Mae digwyddiad 2014, a fydd yn dechrau ac yn gorffen yng Nghastell Treftadaeth y Byd Caernarfon ddydd Sul 15 Mehefin, wedi cael cyllid gan Dwristiaeth Awyr Agored a ariennir yn rhannol gan Raglen Iwerddon-Cymru 2007-2013, i gynnwys, am y tro cyntaf, treisiclau i bob oed, beiciau ochr yn ochr, tandemau gorweddol, beiciau a bwerir â llaw, beiciau gorweddol ar gyfer rasio neu ymlacio, a chludwyr cadeiriau olwyn.
Y trydydd Etape Eryri fydd y mwyaf hyd yma. Disgwylir i Etape groesawu mwy na 1,300 o gystadleuwyr a 2,600 o wylwyr i Gaernarfon i weld y digwyddiad chwaraeon rhyfeddol hwn. Bydd y cystadleuwyr yn cynnwys Dave Bralisford, cyn gyfarwyddwr perfformiad Beicio Prydain, a fagwyd yn Neiniolen gyfagos.
Mae Twristiaeth Awyr Agored yn dwyn ynghyd chwe sefydliad; tri o Gymru: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Gwynedd a’r Bartneriaeth Awyr Agored; a thri o Iwerddon: Cyngor Sir Dun Laoghaire-Rathdown, Cyngor Sir Kildare Phartneriaeth Arweinyddiaeth Kilkenny.
Prosiect INTERREG IVA yw Twristiaeth Awyr Agored sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Drawsffiniol Iwerddon-Cymru ac arian cyfatebol gan y chwe phartner yn Iwerddon a Chymru.
Dywedodd Jim McGurn o Get Cycling, "Rydym ni’n credu y dylai pawb gael y cyfle i fwynhau beicio, beth bynnag fo’u gallu neu anabledd.
"Mae beicio’n cynnig llawer o fuddion i unrhyw un sydd ag anabledd: symudedd annibynnol, cydsymudiad, llawer o hwyl ac ymdeimlad o gyflawniad trwy ddefnyddio’ch corff eich hun i fynd o le i le.
"Mae Etape Eryri yn cynnig cyfle arbennig i fwynhau beicio ac mae’r 15 o feiciau addasol y byddwn ni’n dod â hwy yn golygu na fydd unrhyw un yn cael ei eithrio. Edrychwn ymlaen at reid wych gyda phobl wych."
Cefnogir y digwyddiad gan Gyngor Gwynedd, a dywedodd John Wyn Jones, Aelod y Cabinet dros Ddatblygiad a’r Economi: “Mae digwyddiadau fel Etape Eryri yn ffordd wych o arddangos Gwynedd a rhoi hwb i’n diwydiant twristiaeth. Mae’r sector gweithgarwch antur awyr agored yn cyfrannu miliynau o bunnoedd at yr economi leol bob blwyddyn, a thrwy gynnal y digwyddiadau hyn gallwn wella’r hyn sydd gennym ni eisoes a chynnig mwy o gyfleoedd i ymwelwyr, busnesau lleol a chymunedau elwa.”
Ychwanegodd Rob Samuel o Always Aim High Events, sy’n trefnu’r digwyddiad Etape, “Rydym ni’n ddiolchgar am y cymorth ariannol gan y Prosiect Twristiaeth Awyr Agored a fydd yn ein galluogi i gynnig ystod o feiciau addasol am y tro cyntaf eleni.
“Mae Etape eleni yn addo bod yn ddigwyddiad arbennig, a bydd Sgwâr Caernarfon yn cael ei drawsnewid yn Bentref Digwyddiad Etape Eryri ac yn fan gwych i wylio a phrofi’r cyffro!”
Dywedodd Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd, “Dylai’r holl gyfleoedd a gynigir, boed hynny yn eich canolfan hamdden neu glwb chwaraeonlleol neu mewn digwyddiadau, fod yn gynhwysol, ac mae hyn yn ddatblygiad cadarnhaol o ran digwyddiadau beicio yng Ngwynedd. Gan fod 23% o boblogaeth Cymru’n anabl (yn ôl y Cyfrifiad), mae hyn yn ategu cyfleoedd ar lawr gwlad fel y prosiect HerioEich Ffiniau sydd eisoes wedi’i sefydlu yng Nghoed y Brenin a chynllun beicio cynhwysol newydd arfaethedig ar gyfer Plas Menai.
“Bydd hyn yn darparu llwybr ymadael ar gyfer pobl o bob gallu ac yn cynyddu cyfranogiad pobl anabl yn ygamp wych hon. Bydd hefyd yn ychwanegu at yr hyn sydd eisoes ar gael ac yn cyfrannu at wella bywydau pobl anabl yng Ngwynedd ac ar draws Cymru.”