Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mehefin 2014

Canolfan Ymchwil Plant a Gofal Plant Prifysgol Bangor yn ail-agor ac ail-leoli

Ail-agorwyd Tir na n-Óg, Chanolfan Ymchwil Plant a Gofal Plant Prifysgol Bangor yn ei lleoliad newydd  yn ddiweddar.

Mae'r Brifysgol  yn darparu gofal plant fforddiadwy ac o ansawdd uchel ar gyfer staff y Brifysgol, myfyrwyr a rhieni yn y gymuned leol, yn eu meithrinfa gofal dydd sydd â’r cyfleusterau diweddaraf. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnwys cyfleuster ymchwil plant, sy’n sicrhau yr ymgorfforir y canfyddiadau diweddaraf mewn dysgu a datblygu plant i’r gofal dydd a ddarperir gan y Feithrinfa. Mae Canolfan Tir na n-Óg wedi’i lleoli mewn llecyn braf, gyda’r Fenai o fewn golwg, ac wedi ei hamgylchynu gan goed a chaeau gleision, ger y fynedfa i Safle’r Normal o fewn y Brifysgol. Mae cyrraedd y Feithrinfa’n gyfleus o Ffordd Caergybi, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog oddi yno i Ynys Môn, a lleoliadau o amgylch a thu hwnt i Fangor, drwy’r A55 a’r A5.

Ddydd Sadwrn 28 Mehefin, o 10am tan 12pm, cynhelir Diwrnod Agored ar gyfer rhieni sydd â diddordeb mewn gweld Meithrinfa Tir na n-Óg ar ei newydd wedd.

Sefydlwyd Tir Na n-Óg: Canolfan Ymchwil Plant a Gofal Plant gan Brifysgol Bangor yn 1990 mewn adeiladau ar Safle’r Santes Fair, Lôn Popty, Bangor. Ar ôl bron i 24 mlynedd o ddarpariaeth gofal plant yno, penderfynwyd adleoli Tir na n-Óg i adeilad newydd ar Ystâd y Brifysgol er mwyn gwneud lle ar gyfer datblygu neuaddau myfyrwyr newydd y Brifysgol ar safle’r Santes Fair.

Meddai’r Athro Pauline Horne o Ysgol Seicoleg a Chyfarwyddwr Tir Na n-Óg y Brifysgol, “Mae staff y feithrinfa’n falch iawn o fod yn gweithio mewn meithrinfa newydd a adeiladwyd yn bwrpasol , ac sydd mewn amgylchedd prydferth. Mae’r plant hefyd yn gyffro i gyd yn eu hamgylchedd gofal dydd newydd, sy’n darparu cyfleoedd diddiwedd ar gyfer archwilio, hwyl, a chwsg bach clyd pan fo angen.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am ei phenderfyniad i fuddsoddi mor hael yn y ddarpariaeth gofal plant ardderchog ar gyfer rhieni yn y gymuned leol. Mae angen i rieni sy’n gweithio deimlo’n hyderus fod eu plant yn derbyn y gofal orau tra byddant yn dilyn eu gyrfaoedd ac ennill bywoliaeth.”

Rhannu |