Mwy o Newyddion
Heini Gruffudd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff Awdurdod y Gymraeg
Yng nghwmni Simon Thomas AC, bydd cyn-ddarlithydd Prifysgol Abertawe a’r ymgyrchydd iaith brwd, Heini Gruffudd, yn traddodi darlith ar ddyfodol yr iaith Gymraeg yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, nos Fawrth, 17 Mehefin.
Yn y ddarlith hon, bydd Heini Gruffudd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Awdurdod y Gymraeg, corff a fyddai â chyfrifoldeb dros hyrwyddo’r Gymraeg ym meysydd addysg, yr economi, tai a’r diwylliant poblogaidd ynghyd ag ehangu’r defnydd ohoni fel iaith gwaith gan gyrff cyhoeddus a phreifat.
Rhoddwyd sylw dyledus i sicrhau statws yr iaith yng Nghymru gyda’r pwyslais ar ddeddfwriaeth a rheoleiddio. Fodd bynnag mae gweithredu ieithyddol wedi anwybyddu meysydd mwy sylfaenol a heriol defnyddio'r Gymraeg yn y cartref, yn y gymdeithas ehangach ac yn y gwaith. Mae'n eironi bod y Gymraeg wrth ennill statws swyddogol ar y naill law yn colli tir yn gymunedol ar y llall. Mae angen polisïau economaidd a pholisïau tai priodol yng nghadarnleoedd y Gymraeg, ac mewn ardaloedd llai Cymraeg mae’n hanfodol creu rhwydweithiau Cymraeg newydd i bobl ifanc ac i oedolion sy’n ei dysgu.
Heini Gruffudd yw Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, y grŵp lobïo dros y Gymraeg, ac un o sylfaenwyr canolfan Gymraeg Tŷ Tawe, Abertawe. Mae Heini hefyd yn Gyn-gadeirydd Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG). Yn ystod ei yrfa fel Darlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, arweiniodd nifer o brosiectau ymchwil yn ymwneud â defnydd disgyblion ac oedolion o’r Gymraeg, ac ers ymddeol bu’n ymwneud â gwaith ar rwydweithiau cymdeithasol i ddysgwyr Cymraeg. Mae’n awdur nifer o gyfrolau i ddysgwyr, ac y llynedd enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ‘Yr Erlid’ sy’n adrodd hanes profiadau ei deulu yng Nghymru a’r Almaen yn ystod cyfnod y Natsïaid.
Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a fydd yn cadeirio’r ddarlith: “Mae’n bleser gennym gefnogi’r ddarlith allweddol hon yn hanes yr iaith Gymraeg. Mae perthynas Prifysgol Abertawe gyda Heini a’i deulu yn ymestyn nôl dros nifer fawr o flynyddoedd ac rydym yn hynod o falch o’i rôl sylweddol yn yr ymdrechion i ddiogelu’r iaith Gymraeg."
Cynhelir y ddarlith Saesneg hon yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd am 6.30pm ddydd Mawrth, 17 Mehefin 2014. Bydd derbyniad cyn y ddarlith yn cychwyn am 6pm.
Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Brifysgol Abertawe a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
I gofrestru’ch lle, ewch i: viablecommunities.eventbrite.co.uk neu ffoniwch 02920 376971.